
Ymunwch â Her yr Hydref!
- Awydd darllen mwy o lyfrau Cymraeg ond ddim yn siwr lle i ddechrau?
- Dim digon o amser i ddarllen?
- Chwilio am her ar gyfer yr hydref?
Mae Her yr Hydref yn eich annog chi i ddarllen un llyfr bob wythnos yn ystod mis Hydref. Mae’r rhestr arbennig hon o lyfrau byrion gan awduron arbennig yn cynnig y cyfle perffaith i ymgolli mewn llyfr – hyd yn oed os mai dim ond ychydig funudau’r dydd sydd gennych.
Dyma ambell gyfrol ar y rhestr eleni, ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.
WYTHNOS 1

Cylchgronau amrywiol o Gymru
WYTHNOS 2

O Ffrwyth y Gangen Hon
Cerddi am orfoledd – dyma oedd yr alwad agored i “feirdd benywaidd o bob cefndir”. A dyma’r flodeugerdd wedi dwyn ffrwyth, gyda chyfraniadau gan leisiau cyfarwydd a lleisiau newydd sbon. O gerddi tyner i rai swnllyd a doniol, cewch flasu amrywiaeth o farddoniaeth yn y gyfrol hon i ddathlu benyweidd-dra yn ei gyfanrwydd.
WYTHNOS 3

Pelydrau
Casgliad o 7 stori fer ar y themâu ‘goleuni’ a ‘heddwch’. Mae’r casgliad yn cynnwys gwaith enillwyr cystadleuaeth stori fer Sebra 2025 ynghyd â’r awduron profiadol Mererid Hopwood, Alun Davies, Sioned Erin Hughes ac Aled Jones-Williams.
WYTHNOS 4

Ble aeth Elen Puw?
Nofel ddirgelwch gyfoes. Yn oriau mân y bore ym mis Mai 1973 diflannodd Elen Puw, merch ysgol 18 oed, ar y ffordd adre. Yn 2024 mae Sara Price, newyddiadurwraig gyda’r BBC, yn dychwelyd i’w thref enedigol i ymchwilio i ddiflaniad Elen ar gyfer podlediad.