Gyrrwr / Cynorthwyydd Casglu a Phacio
Ydych chi’n gallu gweithio’n gyflym, ac eto’n fanwl a chywir, yn annibynnol ac fel rhan o dîm?
Ydych chi’n gallu gyrru ac yn hoffi cwrdd â chwsmeriaid? Oes gennych chi drwydded i yrru fan?
Oes gennych chi gymhwyster defnyddio forklift, neu’n barod i gwblhau’r hyfforddiant?
Rydym yn chwilio am rywun i ymuno â’n tîm yng Nghanolfan Ddosbarthu’r Cyngor Llyfrau, i helpu ni yn ein gwaith i anfon llyfrau Cymru allan i’r byd.
Cewch fwy o fanylion am y swydd YMA.
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 12.00 o’r gloch ar ddydd Gwener, 29 Awst 2025.
Aelodau ar gyfer Isbwyllgorau Cyngor Llyfrau Cymru
Ydych chi’n angerddol am ddarllen a llyfrau o Gymru?
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â’n Hisbwyllgorau Datblygu Cyhoeddi annibynnol (Cymraeg a Saesneg); yn benodol, pobl sydd â diddordeb mewn rhyw agwedd ar y diwydiant, boed yn gyhoeddi llyfrau neu gylchgronau, yn ddarllen, ysgrifennu, golygu, comisiynu, marchnata neu adolygu.
Rydym yn elusen gofrestredig sy’n cefnogi’r diwydiant llyfrau yng Nghymru drwy grantiau a gwasanaethau. Credwn fod amrywiaeth yn meithrin arloesedd a llwyddiant, ac rydym yn awyddus iawn i dderbyn ceisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector cyhoeddi.
Mae manylion pellach i’w gweld YMA a ffurflen gais i’w llenwi YMA neu, anfonwch e-bost at post@llyfrau.cymru
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 22 Medi 2025.
Tendr Gwasanaeth Newyddion Digidol Cymraeg
Gwahoddir ymgeiswyr i fynegi diddordeb mewn ymgeisio am gefnogaeth ariannol i gynnal gwasanaeth newyddion digidol Cymraeg a fydd yn darparu newyddion am Gymru ac yn ehangach. Dyma’r gwasanaeth a ddarperir ar hyn o bryd gan Golwg360.
Manylion pellach i’w gweld YMA.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Hanner dydd, 16 Medi 2025.
Dyddiad ar gyfer cyfweld: wythnos yn dechrau 29 Medi 2025.
Os am drafod y tendr ymhellach, cysyllter ag Arwel Jones – arwel.jones@llyfrau.cymru
Gwahoddiad i Dendro – Cyhoeddwyr Refeniw (Saesneg) a Swyddi a Gefnogir 2026–2031
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd ceisiadau am gyllid ar gyfer Cyhoeddwyr Refeniw a Swyddi a Gefnogir i gyhoeddwyr Saesneg wedi’u lleoli yng Nghymru ar gyfer 2026–2031.
Mae hwn yn gyfnod newydd o bum mlynedd, gan ddechrau Ebrill 2026 a gorffen ym mis Mawrth 2031.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 5.00yp, dydd Gwener 10 Hydref 2025.
Am ragor o wybodaeth neu i drafod a ydych yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn, cysylltwch ag english.grants@books.wales
Sut brofiad ydi gweithio i’r Cyngor Llyfrau? Pa fath o waith sy’n mynd ymlaen? Gwyliwch y fideo i weld . . .
Cynllun Profi – Cyngor Llyfrau Cymru
Gwyliwch y ffilm fer hon ar YouTube i gael blas am waith y Cyngor Llyfrau –
Blas o Ein Stori – Lleisiau cyhoeddi heddiw – YouTube
GWAITH ACHLYSUROL
Mae’r Cyngor Llyfrau’n awyddus i greu rhestr o bobl a fyddai’n barod i ymgymryd â gwaith achlysurol o bryd i’w gilydd. Byddai’r gwaith yn cynnwys coladu a phacio taflenni yn bennaf. Bydd y gwaith wedi ei leoli yn Aberystwyth.
Os oes gennych ddiddordeb yn y gwaith, cysylltwch â’r Cyngor Llyfrau trwy e-bost at castellbrychan@llyfrau.cymru neu drwy lythyr. Bydd y rhestr yn cael ei chadw ar agor ac yn cael ei diwygio’n flynyddol.
Gwyliwch y ffilm fer hon ar YouTube i gael blas am waith y Cyngor Llyfrau –
Blas o Ein Stori – Lleisiau cyhoeddi heddiw – YouTube