Mae Llenyddiaeth Cymru yn elusen genedlaethol wedi’i lleoli yng Nghaerdydd ac mae ei chylch gorchwyl yn cynnwys datblygu awduron.
Eu nod, medd Llenyddiaeth Cymru, yw datblygu a chefnogi awduron ar bob cam o’u gyrfa lenyddol i gyflawni eu llawn botensial.
Mae manylion llawn i’w cael ar eu gwefan, yn cynnwys gwybodaeth a chyngor ymarferol, adnoddau defnyddiol, a gwybodaeth am eu gwasanaethau i awduron.
Os hoffech ragor o wybodaeth neu gyngor, neu os hoffech drafod eich gwaith gydag aelod o staff Llenyddiaeth Cymru, cysylltwch â nhw ar 029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org