Cafodd tîm o ddarllenwyr brwd o Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa, Merthyr Tydfil, eu coroni’n Bencampwyr 2019 BookSlam, cystadleuaeth ddarllen y Cyngor Llyfrau i blant yn seiliedig ar lyfrau Saesneg o Gymru.
Cynhaliwyd y rownd genedlaethol yn Aberystwyth yn ddiweddar, a gwelwyd cannoedd o ddisgyblion cynradd o bob cwr o Gymru’n cystadlu i fod yn bencampwyr cenedlaethol. Eu tasg oedd creu argraff ar y beirniaid mewn dwy rownd – sef trafodaeth am 10 munud, a chyflwyniad dramatig yn para 8 munud, yn seiliedig ar eu dewis o lyfrau.
Ar ôl diwrnod o gystadlu brwd, Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa, Merthyr Tydfil a ddyfarnwyd yn bencampwyr BookSlam, ar ôl iddynt greu argraff arbennig ar feirniad y trafodaethau gyda’u gwybodaeth am y nofel Flight gan Vanessa Harbour. Yn rownd y cyflwyniadau, fe wnaethant blesio’r beirniad gyda’u dehongliad o Rugby Zombies gan Dan Anthony.
Yn ystod y dydd, cafodd yr holl blant a’r athrawon gyfle hefyd i fwynhau hwyliog yng nghwmni’r awdur Shoo Rayner.
Eleni, Pam John oedd yn beirniadu’r trafodaethau gydag Anna Sherratt yn beirniadu’r cyflwyniadau.
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: “Nod BookSlam yw cael plant o bob cwr o Gymru i ddarllen. Trwy ddadansoddi a pherfformio’r hyn maent wedi’i ddarllen, gallant ddefnyddio’u dychymyg i ddod â’r llyfrau’n fyw yn eu cyflwyniadau. Pleser o’r mwyaf oedd gweld y plant yn llawn brwdfrydedd yn ystod rownd genedlaethol BookSlam; hoffem ddiolch yn ddiffuant i’r trefnwyr ymroddedig am eu gwaith caled yn y rowndiau sirol, ac i’r athrawon a’r cefnogwyr eraill sy’n gwneud y digwyddiadau hyn yn bosibl.”
Cipiwyd yr ail safle gan Ysgol Gynradd Penllwyn, Ceredigion, gydag ysgolion cynradd Pontffranc, Powys a Crist y Brenin, Caerdydd yn rhannu’r drydedd wobr.
Diolch i gefnogaeth hael nifer o gyhoeddwyr Cymru gwahoddwyd pob plentyn a gymerodd ran yn y cystadlaethau i ddewis llyfr yn rhad ac am ddim i gofio am yr achlysur.