Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn cynnig cymorth ariannol i lyfrwerthwyr mewn dwy ffordd.
Y Cynllun Ymestyn
Mae’r Cynllun Ymestyn yn cynorthwyo llyfrwerthwyr i fynychu digwyddiadau trwy Gymru gyfan. Gweinyddir y cynllun hwn gan Adran Gwerthu a Marchnata’r Cyngor. Am ragor o wybodaeth am y cynllun, cliciwch yma. Nid yw’r cynllun hwn yn cael ei ariannu o’r Grant Cyhoeddi.
Y Grant Cyhoeddi (Cymraeg)
Mae cronfa fechan o fewn y Grant Cyhoeddi (Cymraeg) a ddefnyddir i gynnig gostyngiadau ychwanegol i lyfwerthwyr annibynnol sydd â chyfrif gyda Chanolfan Ddosbarthu’r Cyngor, ac sydd yn cyrraedd trothwy gwerthiant penodol ar y cyfrif hwnnw. Nid oes angen i lyfwerthwyr wneud ceisiadau am y taliadau hyn. Gweinyddir y cynllun gan y Ganolfan Ddosbarthu.