Mae Alwena Hughes Moakes yn Bennaeth Byd-eang Cyfathrebu ac Ymgysylltu â’r Gweithlu i gwmni amaeth rhyngwladol â’i bencadlys yn Basel, y Swistir. Cyn adleoli i’r Swistir, bu Alwena’n gweithio am rai blynyddoedd mewn swyddi rheoli ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Materion Cyhoeddus. Yn wreiddiol o’r Wyddgrug, mae Alwena yn gyfathrebwraig brofiadol a chanddi dros ugain mlynedd o brofiad o weithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.
“Rwyf wrth fy modd o gael fy mhenodi yn Ymddiriedolwr i Gyngor Llyfrau Cymru. Er fy mod yn byw ar y cyfandir ers bron i chwe mlynedd, mae gen i gryn ddiddordeb yn niwylliant Cymru – mae fy ymrwymiad i lwyddiant Cymru, gartref a thramor, cyn gryfed ag erioed. Edrychaf ymlaen yn fawr at yr her newydd ac at gydweithio ag aelodau’r Bwrdd i sicrhau ffyniant hirdymor y Cyngor – o ran awduron a diwydiant cyhoeddi Cymru.”