Peidiwch â barnu llyfr yn ôl ei glawr medden nhw. Ond gall delwedd dda ddenu darllenydd. Mae creu cloriau deniadol felly ymhlith y gwasasnaethau mae’n Hadran Ddylunio yn eu cynnig i gyhoeddwyr ar draws Cymru. Bob blwyddyn, bydd hyd at 100 o deitlau gwahanol yn mynd trwy ddwylo’r Adran.
Mae’r Adran Ddylunio yn cynnig y gwasanaethau canlynol:
- Dylunio cloriau llyfrau
- Dylunio llyfrau o glawr i glawr
- Darparu deunydd gweledol, megis darluniau a ffotograffau, ar gyfer llyfrau.
Mae’r Arweinydd Maes: Dylunio a’r Swyddogion Dylunio yn ddylunwyr graffig profiadol. Er eu bod yn ymgymryd â rhan sylweddol o waith yr Adran eu hunain, maen nhw hefyd yn cydweithio â rhwng 30 a 40 o ddylunwyr, darlunwyr a ffotograffwyr allanol, gan fanteisio ar eu harbenigedd yn y gwahanol feysydd.
Yr Adran sy’n gyfrifol am ddylunio holl gyhoeddiadau mewnol Cyngor Llyfrau Cymru.
Gwahoddir dylunwyr a darlunwyr a fyddai’n hoffi gweithio ar lyfrau i gysylltu â ni.
Manylion Cyswllt
Arweinydd Maes: Dylunio – Dafydd Owain dylunio@llyfrau.cymru
Swyddog Dylunio – Olwen Fowler olwen.fowler@llyfrau.cymru
Swyddog Dylunio – Tanwen Haf tanwen.haf@llyfrau.cymru
Adran Ddylunio
Castell Brychan
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2JB
Ffôn: 01970 624151
Facs: 01970 625385