Alwena Hughes Moakes – Ymddiriedolwr

Alwena Hughes Moakes

Mae Alwena Hughes Maokes yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Cyn hynny, bu’n Bennaeth Byd-eang Cyfathrebu ac Ymgysylltu â’r Gweithlu i gwmni amaeth rhyngwladol â’i bencadlys yn Basel, y Swistir.

Yn wreiddiol o’r Wyddgrug, mae Alwena yn gyfathrebwraig brofiadol a chanddi dros ugain mlynedd o brofiad o weithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.