#CaruDarllen
Profwyd mai darllen er pleser yw’r ffactor bwysicaf o ran llwyddiant yr unigolyn – yn fwy nag amgylchiadau teuluol, cefndir addysgiadol nag incwm.
Dyma un o’r rhesymau pam fod darllen er pleser yn rhan annatod o’n cenhadaeth fel Cyngor Llyfrau. Rydyn ni am weld plant – ac oedolion – o bob oed a chefndir yn codi llyfr ac yn gwneud darllen yn arfer oes.
Bob blwyddyn, rydyn ni’n gweithio gyda pharterniaid i drefnu cyfres o ymgyrchoedd gwahanol er mwyn annog, ysbrydoli a rhannu ein cariad at ddarllen.