YMDDIRIEDOLWYR
Ydych chi’n frwd dros annog rhagor o bobl i godi llyfr ac elwa o’r holl fuddion sydd ynghlwm â darllen?
Ydych chi’n awyddus i gyfrannu at y gwaith pwysig o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi ar hyd a lled Cymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg?
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn awyddus i benodi hyd at ddau o ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’r deg presennol fel aelodau o’i Fwrdd i sicrhau bod gennym y drefn reoli sy’n briodol i’n gofynion presennol ac i’r dyfodol. Rydym yn elusen sy’n credu mewn amrywiaeth a chynhwysiant ac mewn cael Bwrdd o Ymddiriedolwyr, gweithlu ehangach, a chynnwys o Gymru a gefnogir gan grantiau sy’n adlewyrchu’r gymdeithas gyfan.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd, oedrannau a lefelau profiad; sydd â diddordeb byw ym myd llyfrau a chylchgronau; sy’n credu y gallant helpu i gefnogi’n gwaith a’n hamcanion strategol, a hynny er mwyn cyflawni’r diwydiant cynhywysol a chynrychioliadol yr ydym wedi ymrwymo iddo fel sefydliad.
Y tro hwn, hoffem glywed yn arbennig gan unigolion sydd â:
- gwybodaeth ddigonol ymarferol o’r cwricwlwm presennol ym myd addysg uwchradd yng Nghymru;
- arbenigedd academaidd ym maes Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru, neu
- brofiad mewn gweithgareddau ymgysylltu cymunedol sy’n canolbwyntio ar oedolion ifanc.
Bydd y penodiadau am gyfnod cychwynnol o bedair blynedd, a disgwylir i aelodau fynychu pedwar cyfarfod o’r Bwrdd bob blwyddyn. Swyddi digyflog, gwirfoddol yw’r rhain, ond ad-delir unrhyw dreuliau rhesymol.
Am ragor o fanylion ac i wneud cais, neu ar gyfer ymholiadau, cysylltwch â menai.williams@llyfrau.cymru
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: canol dydd, ddydd Llun, 19 Mai 2025.
Gwyliwch y ffilm fer hon ar YouTube i gael blas am waith y Cyngor Llyfrau –
Blas o Ein Stori – Lleisiau cyhoeddi heddiw – YouTube
GWAITH ACHLYSUROL
Mae’r Cyngor Llyfrau’n awyddus i greu rhestr o bobl a fyddai’n barod i ymgymryd â gwaith achlysurol o bryd i’w gilydd. Byddai’r gwaith yn cynnwys coladu a phacio taflenni yn bennaf. Bydd y gwaith wedi ei leoli yn Aberystwyth.
Os oes gennych ddiddordeb yn y gwaith, cysylltwch â’r Cyngor Llyfrau trwy e-bost at castellbrychan@llyfrau.cymru neu drwy lythyr. Bydd y rhestr yn cael ei chadw ar agor ac yn cael ei diwygio’n flynyddol.
Gwyliwch y ffilm fer hon ar YouTube i gael blas am waith y Cyngor Llyfrau –
Blas o Ein Stori – Lleisiau cyhoeddi heddiw – YouTube