Croeso i dudalen Panel Pobl Ifanc Cyngor Llyfrau Cymru. Sefydlwyd y panel er mwyn sicrhau cyfle i amrywiaeth o leisiau ifanc rannu barn a syniadau am ddarllen er pleser yng Nghymru. Bydd y panel yn cwrdd tair gwaith y flwyddyn.
Prif nod y cyfarfodydd yw adnabod themâu y mae’r aelodau yn dymuno eu gweld mewn llenyddiaeth i bobl ifanc, mynegi barn ar gyhoeddiadau cyfredol, ynghyd â rhannu eu dyheadau am gyhoeddiadau yn y dyfodol. Mae’n gyfle hynod o werthfawr i drafod ymgyrchoedd hyrwyddo darllen er pleser er mwyn annog eraill i ddarllen.
Dewch i gwrdd a’r panelwyr…
MARED FFLUR – Cadeirydd
Mae Mared Fflur yn un o Ddolgellau yn wreiddiol, ond mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon.
O ddydd i ddydd mae’n gweithio fel Athrawes Gymraeg ac mae’n frwd dros hybu pobl ifanc i fwynhau darllen. Enillodd wobr Prif Lenor Eisteddfod T 2020 a Choron Ffermwyr Ifanc Cymru yn 2022, yn ogystal â Chadair Ffermwyr Ifanc Cymru yn 2024.
alexander gully
Os oedd rhaid i mi ddisgrifio fy hun mewn un ansoddair, ‘angerddol’ fyddai hwnnw. Gall hyn amlygu’i hun yn fy marn gref neu hyd yn oed yn fy nyfalbarhad wrth greu storïau a chymeriadau cymhleth; ond yn bennaf, mae fy angerdd yn dod amlwg wrth drafod llenyddiaeth a darllen (yn enwedig trwy gyfrwng y Gymraeg). Yn yr un modd, dwi wir am ddefnyddio fy amser ar y panel yma nid yn unig er mwyn atgoffa pawb o hanes ein straeon ond hefyd i hybu llenyddiaeth Gymraeg fwy modern, gan mai dyma’r elfennau sy’n helpu i gadw’r iaith Gymraeg yn fyw.
Bethan Thomas
Fy enw i yw Bethan ac rwy’n fyfyriwr yn yr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Efrog, yn astudio Saesneg a Llenyddiaeth Gysylltiedig. Rwy’n dod o Ddinbych ac astudiais Lenyddiaeth Gymraeg, Llenyddiaeth Saesneg a Hanes Lefel A yn Ysgol Uwchradd Glan Clwyd. Rwyf wedi gweithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol ers nifer o flynyddoedd, ac rwyf wrth fy modd yn rhannu fy angerdd dros ddarllen â nhw. Fy nod fel aelod o’r panel yw gwneud darllen yn fwy hygyrch i’r rhai ag ADY. Gallai hyn olygu newid ffont neu liw’r testun, neu sicrhau mynediad at lyfrau difyr sydd wedi’u hysgrifennu ar lefel fwy hygyrch gyda geirfa symlach. Rwyf hefyd yn angerddol dros hyrwyddo llyfrau Cymraeg. Fy hoff awdur Cymraeg yw Manon Steffan Ros.
Edward Cawley
Fy enw i yw Edward Cawley ac rwy’n 18 oed ac yn byw yn Llanrwst. Fy ngobaith ar gyfer y panel hwn yw hyrwyddo darllen ar gyfer y genhedlaeth hon a’r genhedlaeth nesaf o ddarllenwyr yng Nghymru, gan fy mod yn credu bod darllen yn hollbwysig ar gyfer lles a datblygiad plentyn, drwy ddarparu’r holl anghenion deallusol sydd eu hangen ar blentyn, o ymwybyddiaeth emosiynol dda i ddeallusrwydd cyffredinol.
Elin Pierce Williams
Helô, Elin ydw i. Rwy’n dod o ardal Aberystwyth, ac yn astudio Bioleg, Cemeg a Llenyddiaeth Saesneg (UG) yn Ysgol Penweddig. Rwy’n hoff iawn o fod yn yr awyr agored, yn mynd â’r ci am dro, neu loncian. Mae cerddoriaeth yn bwysig i mi – rwy’n mwynhau canu’r piano a’r gitâr. Dwi wedi bod yn darllen er pleser ers ’mod yn ddim o beth, yn Gymraeg ac yn Saesneg, gyda nofelau ffuglen hanesyddol a ffantasi ymysg fy hoff genres. Dwi’n hoff iawn o waith Caryl Lewis a Manon Steffan Ros yn Gymraeg, a Philip Pullman a Matt Haig yn Saesneg.
Am fy mod yn darllen yn eang mewn dwy iaith, mae gen i syniad am y llenyddiaeth sydd ar gael, ymwybyddiaeth o’r bylchau sydd mewn llenyddiaeth Gymraeg, a beth hoffwn ei weld ar y silffoedd, e.e. nofelau sy’n trafod pynciau cyfoes, fel yr argyfwng hinsawdd, iechyd meddwl, a materion yn ymwneud â’r gymuned LHDTQ+. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at gydweithio ag aelodau eraill y panel!
Gwenno Davies
Fy enw i yw Gwenno ac rwy’n astudio gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Wrth fod yn aelod o’r panel, rwy’n gobeithio sicrhau bod digon o ddeunydd ffres, cyffrous, a pherthnasol ar gael i bobl ifanc eu darllen trwy gyfrwng y Gymraeg.
Jonah Eccott
Rwy’n dod o Gwm Tawe’n wreiddiol ac yn astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rwy’n mwynhau canu’r piano, cerdded a bod yn yr awyr agored.
O ran fy ngweledigaeth, hoffwn weld ystod fwy eang o lyfrau a deunyddiau darllen i bobl ifanc sy’n ymdrin â phynciau a themâu sydd o ddiddordeb i bawb.
Joshua Romain
Shwmae! Fy enw i yw Josh ac rwy’n ddisgybl Blwyddyn 13 yn Ysgol Plasmawr. Rwy’n mwynhau chwarae pêl-droed ond hefyd yn angerddol am waith gwrth-hiliaeth ac amgylcheddol yn fy nghymuned, ac wedi ysgrifennu rhai blogiau ac erthyglau ar amryw o bynciau. Rwy’n hoff o ddysgu y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth ac yn credu y gall llyfrau gynnig cymaint mwy. Rwyf wrth fy modd gyda straeon byrion yn llawn disgrifiadau sy’n rhoi teimlad tebyg i wrando ar gerddoriaeth i mi – rhywbeth arall rwy’n ei garu’n fawr!
Lleucu Hughes
Lleucu Hughes ydw i, dwi’n 17 mlwydd oed ac yn byw yn Llanuwchllyn. Dwi’n ddisgybl ym Mlwyddyn 13 yn Ysgol Godre’r Berwyn, yn astudio’r Gymraeg, Llenyddiaeth Saesneg, Astudiaethau Crefyddol, a Cherddoriaeth. Fy nod fel aelod o’r panel yw cyfrannu syniadau i hyrwyddo llenyddiaeth ymysg pobl ifanc, a cheisio sicrhau bod amrywiaeth o lenyddiaeth ffeithiol a ffuglen yn cael ei ddarparu sy’n addas i’n cenhedlaeth ni. Fel person ifanc sy’n mwynhau darllen, rwy’n awyddus iawn i annog diddordeb mewn llyfrau ymysg pobl o’m hoed i. Rhai o’m diddordebau eraill yw cerddoriaeth, canu yn bennaf, ac ysgrifennu creadigol.
Mei Madrun
Dwi’n 17 oed o Benrhyn Llŷn ac yn astudio Lefel A Cymraeg, Seicoleg a Chymdeithaseg yn y coleg. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn ieithoedd a’r Gymraeg ers ’mod i’n ifanc, ac felly mae llyfrau wedi bod yn bwysig iawn i mi ers blynyddoedd. Gan fy mod yn deall pwysigrwydd darllen, credaf gall y panel roi cyfle i mi leisio fy marn ar sut i hybu hyn ymhlith pobl ifanc eraill. Drwy’r panel, dwi’n gobeithio medru rhannu fy marn ar hyn sydd ar goll mewn llenyddiaeth Gymraeg i bobl ifanc, a sut mae gwneud llyfrau’n fwy addas i’r oedran yma fel bod pawb yn gallu uniaethu â nhw.
NIKKI WASIULEWSKA
Helô, Nikki ydw i! Ffurfiodd llenyddiaeth fy safbwynt am y byd, felly rwyf am helpu pobl ifanc i ymgysylltu â llyfrau sydd wir yn bwysig iddyn nhw. Wrth dyfu i fyny yn gwirioni’n lân ar nofelau, profais yn uniongyrchol y manteision o fod yn ddarllenydd ifanc o ran fy addysg, fy ngeirfa a’m hyder. Mae mor bwysig i mi fod gan blant ysbrydoledig ddigon o gyfleoedd i fynd â’u cariad at ffuglen ymhellach, ac i gael eu cynrychioli’n deg o fewn cymunedau darllen.