Mae darllenwyr ifanc o Ysgol Twm o’r Nant yn Ninbych wedi bod yn paratoi i fynd i’r afael â Sialens Ddarllen yr Haf eleni gyda’r awdur Leisa Mererid, mewn lansiad yn Llyfrgell Dinbych prynhawn Mercher 10 Gorffennaf 2024.
Mae’r plant wedi ymuno â’r Sialens, a grëwyd gan yr elusen genedlaethol The Reading Agency, sydd â’r nod o’u cadw yn darllen dros wyliau’r haf, gyda digwyddiadau, gweithgareddau a llyfrau gwych – i gyd ar gael am ddim o’u llyfrgelloedd lleol.
Mae Sialens Ddarllen yr Haf eleni, Crefftwyr Campus, yn dathlu creadigrwydd o bob math – dawnsio a darlunio, gwneud modelau allan o sbwriel a miwsig – mae rhywbeth at ddant pawb.
Mae’r awdur Leisa Mererid wedi rhoi dechrau da i’r dosbarth o Ysgol Twm o’r Nant wrth gyflwyno ei llyfr Y Wariar Bach gyda symudiadau ioga ac ymarferion anadlu.
Gall darllenwyr ifanc 4–11 oed gofrestru am y Sialens yn eu llyfrgell leol, neu ar-lein i gasglu gwobrau, darganfod llyfrau newydd, cofnodi eu darllen a mwynhau ystod o weithgareddau yn rhad ac am ddim. Ewch i ddarganfod mwy yn eich llyfrgell leol neu ar wefan https://sialensddarllenyrhaf.org.uk/