Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw pa gyfrolau sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019 yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw pa gyfrolau sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019 yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Dyfernir y Gwobrau i’r gweithiau gorau ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol o fewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol.
Mae’r rhestrau byrion Cymraeg a Saesneg eleni yn cynnwys rhai o awduron amlycaf Cymru. Yn eu mysg mae Prifeirdd, Prif Lenorion, a Phrif Ddramodydd; enillwyr gwobrau megis y Somerset Maugham Award, y Sunday Times Business Book of the Year, yr Orange Prize a’r Costa Poetry Award, ymysg eraill. Yn mynd benben â’r cewri llenyddol hyn mae awduron ar ddechrau eu gyrfaoedd, gan gynnwys rhai sy’n cyhoeddi gwaith am y tro cyntaf.
Wrth ddechrau ar y broses o feirniadu, dywedodd Idris Reynolds ei fod yn chwilio am “gyfrol a fydd yn aros yn y cof ymhell ar ôl cau’r cloriau”.
Y teitlau sydd wedi eu dethol ar gyfer Rhestr Fer Gymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019 yw:
Gwobr Farddoniaeth
Twt Lol, Emyr Lewis (Gwasg Carreg Gwalch)
Cyrraedd a Cherddi Eraill, Alan Llwyd (Cyhoeddiadau Barddas)
Stafell fy Haul, Manon Rhys (Cyhoeddiadau Barddas)
Gwobr Ffuglen Prifysgol Aberystwyth
Ynys Fadog, Jerry Hunter (Y Lolfa)
Llyfr Glas Nebo, Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
Esgyrn, Heiddwen Tomos (Y Lolfa)
Gwobr Ffeithiol Greadigol
Cymru mewn 100 Gwrthrych, Andrew Green (Gwasg Gomer)
Y Gymru ‘Ddu’ a’r Ddalen ‘Wen’, Lisa Sheppard (Gwasg Prifysgol Cymru)
Rhyddhau’r Cranc, Malan Wilkinson (Y Lolfa)
Ar y panel beirniadu Cymraeg eleni mae’r darlledwr adnabyddus ac awdur chwaraeon, Dylan Ebenezer; Pennaeth Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, Cathryn Charnell-White; a’r bardd ac awdur Idris Reynolds, cyn-enillydd Llyfr y Flwyddyn 2017 am ei gofiant i Dic Jones, Cofio Dic (Gwasg Gomer).
Mae’r panel beirniadu Saesneg yn cynnwys y bardd ac Athro Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Lerpwl, Sandeep Parmar; Pennaeth Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth, Louise Holmwood-Marshall; a’r nofelydd ac Athro Emeritws Ysgrifennu Creadigol Coleg Birbeck, Prifysgol Llundain, Russell Celyn Jones.
Ar y Rhestr Fer Saesneg mae:
Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias
Insistence, Ailbhe Darcy (Bloodaxe Books)
Salacia, Mari Ellis Dunning (Parthian Books)
Gen, Jonathan Edwards (Seren)
Gwobr Ffuglen Saesneg Prifysgol Aberystwyth
Arrest Me, for I Have Run Away, Stevie Davies (Parthian Books)
West, Carys Davies (Granta Books)
Sal, Mick Kitson (Canongate Books)
Gwobr Ffeithiol Greadigol Saesneg
Moneyland, Oliver Bullough (Profile Books)
The Light in the Dark: A Winter Journal, Horatio Clare (Elliott & Thompson)
Having a go at the Kaiser: A Welsh family at war, Gethin Matthews (Gwasg Prifysgol Cymru)
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Dyma gyfrolau sy’n annog darllenwyr i ystyried rhai o themâu mawr bywyd. Mae iechyd meddwl a hunaniaeth – boed yn bersonol neu’n genedlaethol – yn linyn cyswllt drwy’r cyfan. Mae Rhestr Fer 2019 yn cynrychioli amrywiaeth anhygoel llenyddiaeth gyfoes o Gymru.”
I ddarllen rhagor am y cyfrolau ar y Rhestr Fer a’u hawduron, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org.
Caiff enillwyr y gwobrau eu cyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar nos Iau 20 Mehefin, lle bydd cyfanswm o £12,000 yn cael ei rannu rhwng yr awduron llwyddiannus. Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £1,000, ac fe gyflwynir gwobr ychwanegol o £3,000 i brif enillydd y wobr yn y ddwy iaith. Bydd yr enillwyr hefyd yn derbyn tlws sydd wedi’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones. Mae tocynnau i’r Seremoni Wobrwyo yn £7.50 (gostyngiadau yn £5), a gellir eu prynu ar-lein o wefan Canolfan y Celfyddydau.
Yn ogystal â datgelu dewis y beirniaid yn y Seremoni Wobrwyo, bydd gwobrau yn cael eu dyfarnu i enillwyr Gwobr Barn y Bobl a’r People’s Choice Award. Mae modd pleidleisio nawr am eich ffefryn ymysg cyfrolau’r Rhestr Fer ar wefannau Golwg360: www.golwg360.com (Cymraeg) neu ar Wales Arts Review www.walesartsreview.org (Saesneg).
Am ragor o wybodaeth am
Wobr Llyfr y Flwyddyn, ewch i:
www.llenyddiaethcymru.org/llyfr-y-flwyddyn