Yn wreiddiol o Fôn, mae Rona Aldrich wedi byw yn Nyffryn Clwyd ers 40 mlynedd. Gyda gradd Meistr mewn Llyfrgellyddiaeth ac Astudiaethau Gwybodaeth o Brifysgol Aberystwyth, ei nod yn ystod ei gyrfa oedd sicrhau mynediad hwylus at wybodaeth a diwylliant o bob math i bawb mewn cymdeithas. Cyn ymddeol roedd yn Brif Swyddog gyda Chyngor Sir Conwy. Ar ôl cyfnod o fod yn hunan-gyflogedig, mae erbyn hyn yn eistedd ar Bwyllgor Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac yn Is-gadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru. Dros y blynyddoedd mae wedi dal nifer o swyddi yn lleol ac yn genedlaethol gan gynnwys i Lywodraeth Cymru ac wedi cynrychioli Cymru ar lefel y DU. Ym mis Chwefror 2021, fe’i penodwyd i Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg.