Ymunwch â Her yr Hydref!
- Awydd darllen mwy o lyfrau Cymraeg ond ddim yn siwr lle i ddechrau?
- Dim digon o amser i ddarllen?
- Chwilio am her ar gyfer yr hydref?
Mae Her yr Hydref yn eich annog chi i ddarllen un llyfr o gyfres Stori Sydyn bob wythnos yn ystod mis Hydref. Mae’r gyfres arbennig hon o lyfrau byrion gan awduron arbennig yn cynnig y cyfle perffaith i ymgolli mewn llyfr – hyd yn oed os mai dim ond ychydig funudau’r dydd sydd gennych.
Mae bob math o lyfrau ar gael yn y gyfres, o ffuglen i lyfrau ffeithiol, gan awduron fel Llio Maddocks, Alun Davies, Lowri Cooke a Dylan Ebenezer.
£1 yn unig yw’r llyfrau, sydd tua 100 tudalen o hyd. Llyfrau perffaith i’w darllen ar daith trên i’r gwaith, amser cinio, yn y siop drin gwallt neu dros baned.
Dyma ambell gyfrol yn y gyfres, ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.
Tywyllwch y Fflamau - Alun Davies (Y Lolfa)
Mae sawl blwyddyn wedi pasio ers i’r llun gwerthfawr gyda’i hanes sinistr gael ei ddwyn, a’i berchennog wedi ei ladd yn ystod y lladrad. Hwn yw’r unig achos roedd Ditectif Bedwyr Campell wedi methu datrys. Ond nawr mae ganddo gyfle i fynd ar drywydd y llofrudd unwaith eto, a cheisio dod o hyd I’r gwir am yr hyn ddigwyddodd ddeg mlynedd ynghynt. Nofel drosedd yn llawn hiwmor tywyll.
Deffro’r Draig - Rygbi Cymru 1998-2024 - Seimon Williams (Y Lolfa)
Llyfr am rygbi Cymru yn yr oes broffesiynol sy’n edrych ar y gemau mawr, y prif gymeriadau a rhai o’r prif straeon sydd wedi lliwio’r gamp dros y chwarter canrif ddiwethaf. Daw’r stori i ben drwy edrych ar y garfan ifanc a thaith yr haf i Awstralia yn 2024.
Aduniad – Elidir Jones (Y Lolfa)
Ar ôl blynyddoedd ar wahân, mae pedwar hen ffrind coleg yn dod ynghyd ar lwybrau unig Cwm Darran er mwyn cerdded, yfed a hel atgofion… ond mae rhywun – neu rywbeth – yno gyda nhw, yn llechu yn y niwl. Dros un noson ac un bore dychrynllyd, bydd cyfrinachau’n cael ei datgelu, ffrindiau’n troi’n elynion, a hunllefau yn dod yn fyw.
Gwledd – Lowri Cooke (Y Lolfa)
Dyma straeon rhai o arwyr byd bwyd a diod Cymru heddiw. Dewch i gael eich ysbrydoli gan fusnesau sydd wedi ennyn parch ledled Cymru a thu hwnt, ac sydd wedi cipio gwobrau cenedlaethol. Mae gwledd yn eich disgwyl, wrth i chi ddysgu am yr emosiwn, y gwaith caled a’r dyfalbarhad sydd wedi dod a llwyddiant i’r cynhyrchwyr arloesol, angerddol ac arbennig yma.
Un Noson – Llio Elain Maddocks (Y Lolfa)
Pan ddaeth Jacob adre o Ffrainc i briodas ei ffrind, doedd o ddim wedi dychmygu cwrdd a merch fel Cadi. Mae eu perthynas yn dechrau’n dda ond yn y raddol bach mae amodau’r cytundeb rhyngddyn nhw’n cael eu torri. Nofel gynnes, lawn hiwmor.
Dau Frawd, Dwy Gem: Stori’r Cabangos – Dylan Ebenezer (Y Lolfa)
Dyma stori dau frawd o Gaerdydd sydd yn rhagori mewn dwy gamp. Cawn hanes eu plentyndod a’u gyrfa hyd yn hyn yng ngeiriau Ben a Theo, a’u rhieni Paulo ac Alysia, gan weld sut mae ei magwraeth mewn teulu Cymraeg, hil gymysg wedi dylanwadu arnyn nhw. Cofnod gonest am deulu annwyl a chlos, gyda chwaraeon yn ganolog i’w bywyd.