Swyddi a Gwirfoddoli

CYDLYNYDD LLUNIO BID DINAS LLÊN
A oes gennych chi ddiddordeb byw mewn llenyddiaeth o bob math?

Allwch chi helpu i roi Aberystwyth/Ceredigion i ennill statws Dinas Llên UNESCO yng Nghymru?

Mae’r Cyngor Llyfrau a Grŵp Rhanddeiliaid Ymgyrch Dinas Llên UNESCO yn chwilio am berson sydd:

  • â phrofiad o ymchwilio, casglu a chrynhoi gwybodaeth
  • â phrofiad o baratoi a chyflwyno ceisiadau o’r radd flaenaf
  • ag adnabyddiaeth dda o gyd-destun llenyddol Aberystwyth, Ceredigion a Chymru

£36,648-£40,221
llawn-amser, 37 awr yr wythnos, ond ystyrir oriau rhan-amser a rhannu swydd

Cyfnod penodol hyd Ebrill 2025

Os yw’r rôl hon yn swnio’n addas ar eich cyfer chi, ceir rhagor o fanylion YMA neu e-bostiwch menai.williams@llyfrau.cymru

Dyddiad cau: 15 Gorffennaf 2024

 

CYFARFOD BLYNYDDOL
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Llyfrau ar ddydd Gwener, 19 Gorffennaf am 12.00pm ar Zoom. Os byddwch am ymuno, anfonwch e-bost at menai.williams@llyfrau.cymru i dderbyn y ddolen ar gyfer y cyfarfod.

Gwyliwch y ffilm fer hon ar YouTube i gael blas am waith y Cyngor Llyfrau –
Blas o Ein Stori – Lleisiau cyhoeddi heddiw – YouTube

 

    GWAITH ACHLYSUROL
    Mae’r Cyngor Llyfrau’n awyddus i greu rhestr o bobl a fyddai’n barod i ymgymryd â gwaith achlysurol o bryd i’w gilydd. Byddai’r gwaith yn cynnwys coladu a phacio taflenni yn bennaf. Bydd y gwaith wedi ei leoli yn Aberystwyth.

    Os oes gennych ddiddordeb yn y gwaith, cysylltwch â’r Cyngor Llyfrau trwy e-bost at castellbrychan@llyfrau.cymru neu drwy lythyr. Bydd y rhestr yn cael ei chadw ar agor ac yn cael ei diwygio’n flynyddol.

    Gwyliwch y ffilm fer hon ar YouTube i gael blas am waith y Cyngor Llyfrau –
    Blas o Ein Stori – Lleisiau cyhoeddi heddiw – YouTube