Rydym ni wrth ein boddau bod y rhaglen Caru Darllen Ysgolion i ddarparu llyfr am ddim i bob disgybl rhwng 3 ac 16 oed mewn ysgolion gwladol yng Nghymru bellach ar y gweill. Allwn ni ddim aros i weld disgyblion yn dewis eu llyfr eu hunain i’w gadw!
Bydd disgyblion 11 i 16 oed mewn ysgolion uwchradd gwladol yn derbyn tocyn llyfr arbennig Caru Darllen Ysgolion i’w gyfnewid am lyfr o’u dewis nhw. Bydd tocynnau’n cael eu hanfon i ysgolion cyn diwedd tymor yr haf. Gall ysgolion weithio gyda’u siop lyfrau leol i drefnu stondin dros dro, i drefnu i ddanfon llyfrau neu i gymryd archebion yn yr ysgol. Bydd y trefniadau’n amrywio, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â’ch ysgol eich hun.
Yn y cyfamser byddwn ni’n rhannu ffilmiau, ysbrydoliaeth ar gyfer darllen a rhagor o wybodaeth yma, ac ar sianelau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor Llyfrau.
Diolch i Lywodraeth Cymru am ariannu’r rhaglen Caru Darllen Ysgolion.