Newyddiadurwr a chyflwynydd Cymraeg o Ddyffryn Aman yw Steffan Powell. Yn 2021, daeth Steffan yn ohebydd gemau fideo cyntaf erioed BBC News. Mae Steffan hefyd wedi ei enwi gan y Sefydliad Materion Cymreig fel un o 30 o bobl fydd yn siapio dyfodol Cymru.
Yn ei rôl, mae Steffan yn cyfuno ei gariad at bopeth ffantasi ag angerdd am adrodd straeon dynol-ganolog, i archwilio effaith fyd-eang y diwydiant gemau fideo ar gymdeithas a diwylliant.
Mae Steffan hefyd yn cyflwyno rhaglenni Cymraeg ar S4C, ac yn 2023 yn herio ei hun i ddarllen nofelau Cymraeg.
“Rwy’n dod o deulu o ddarllenwyr; mae wastad wedi bod yn rhan fawr o’r ffordd rydyn ni’n cysylltu.”
Yn blentyn, roeddwn i’n ddarllenydd brwd. Pan fydden ni’n gyrru i unrhyw le fel teulu, roedd fy nhrwyn bob amser yn cael ei gladdu mewn llyfr – fe wnaeth y daith fynd yn gyflymach!
Rwy’n dod o deulu o ddarllenwyr; mae wastad wedi bod yn rhan fawr o sut rydym yn cysylltu. Pan fyddai’n hanner tymor ysgol neu wyliau’r haf, byddai fy rhieni yn mynd â fi a fy chwaer i lawr i’r siop lyfrau i ddewis llyfrau newydd.
Roedd fy rhieni bob amser yn ein hannog i ddarllen llyfrau oherwydd mae’n ddihangfa, mae llyfrau’n mynd â chi i leoedd nad ydych erioed wedi bod, hyd yn oed yn hanesyddol, gallant fynd â chi yn ôl mewn amser. Maen nhw’n gwneud i chi deimlo eich bod chi’n gallu gwneud unrhyw beth – roeddwn i bob amser yn caru hynny am ddarllen.
Mae’r byd yn llawn ‘stwff’ y dyddiau hyn, mae cymaint o wrthdyniadau. Mae bywyd yn mynd mor gyflym; mae pawb bob amser yn rhuthro o un peth i’r llall. Mae gan lyfrau’r gallu i’ch arafu ychydig – gan ddatgysylltu o fywyd bob dydd mewn ffordd gadarnhaol.
“Mae gan bobol sy’n siarad Cymraeg fantais pan mae’n dod i ddarllen nofelau ffantasi.”
Rwyf wrth fy modd â dau genre gwahanol: ffantasi a throsedd.
Y genre ffantasi a ysbrydolodd fy nghariad at ddarllen, yn enwedig Lord of the Rings (LOTR) a The Hobbit. LOTR oedd y llyfr “oedolyn” cyntaf i mi ei orffen. Roeddwn i mor falch ohonof fy hun oherwydd mae’n nofel mor enfawr. Ehangodd byd LOTR fy meddwl mewn ffyrdd mor wych. Roeddwn i’n caru’r byd a greodd Tolkien, roedd yn teimlo mor real.
Mae gan bobl sy’n siarad Cymraeg fantais o ran darllen nofelau ffantasi, yn enwedig LOTR. Mae’r enwau’n teimlo bron yn gyfarwydd, rydych chi’n gweld Galadriel wedi’i ysgrifennu ac yn meddwl ‘o mae hynny’n berffaith normal’. Gwn fod gan Tolkien berthynas â Chymru a’r Gymraeg, a oedd yn sicr wedi fy helpu i gysylltu ag ef a’i waith.
Mae llyfrau yn ehangu eich dychymyg yn y byd yr ydych ynddo. Roeddwn i’n arfer byw ar ben bryn hyfryd gyda chaeau gwyrdd, mynyddoedd a choedwigoedd o fy nghwmpas. Gallai’r goedwig y tu ôl i’m tŷ fod yn Lothlórien o Lord of the Rings. Roedd camu allan o fy nhŷ a cherdded i fyny’r allt fel plentyn 10 oed yn cyfateb i gerdded i fyny Mount Doom. Mae’r nofelau hyn yn dod â gofodau go iawn yn fyw – a gadael i’ch dychymyg redeg yn wyllt.
Gandalf oedd fy hoff gymeriad, hyd yn oed yn fwy felly nag Aragorn neu Frodo, oherwydd ei fod yn sefyll dros y da yn lle’r drwg. Roedd yn gymeriad oedd â’r holl rym yn y byd ond yn ei ddefnyddio i rymuso pobl eraill. Mae’n ysbrydoledig y gallai rhywun mor hen a phwerus ag ef aros mor ffyddlon i’w ffrindiau.
Yn fras, mae fy chwaeth darllen i raddau helaeth wedi aros yr un fath drwy gydol fy mywyd.
Rwyf wrth fy modd â nofelau trosedd, ond mae hyn wedi ehangu at thrillers, yn enwedig gyda thro hanesyddol. Dwi’n hoff iawn o ffuglen hanesyddol oherwydd dwi’n dod ar draws stwff mor drwm wrth weithio ar y newyddion bob dydd, dwi angen y ddihangfa pan dwi gartref – mae darllen yn mynd a fi oddi wrth fywyd bob dydd.
“Mae darllen wedi cyfrannu’n aruthrol at fy ngyrfa newyddiaduraeth, yn enwedig fy ngeirfa.”
Mae darllen yn rhan enfawr o fy swydd, rwy’n treulio’r dydd yn darllen adroddiadau, darllen sgriptiau newyddion, darllen newyddion ar-lein. Rwy’n dal i geisio dod o hyd i’r cydbwysedd rhwng darllen ar gyfer gwaith a darllen er pleser, hoffwn pe bai mwy o oriau yn y dydd!
Mae darllen wedi cyfrannu’n aruthrol at fy ngyrfa newyddiaduraeth, yn enwedig gyda fy ngeirfa. Mae bod yn ddwyieithog yn gwella amrywiaeth geirfa. Mae’r rhan fwyaf o newyddiadurwyr gorau Prydain yn ddarllenwyr brwd.
“Mae darllen nofelau Cymraeg yn tanio gwahanol rannau o’ch ymennydd.”
Darllenais lawer o lyfrau Cymraeg pan oeddwn yn iau, clasuron plant fel Sali Mali ac Y Pry Bach Tew. Yna, yn fy arddegau, nes i roi’r gorau i ddarllen llyfrau Cymraeg oherwydd doedd dim llawer o ffuglen ffantasi ar gael yn Gymraeg.
Dw i’n darllen lot mwy o lyfrau yn yr iaith Gymraeg nawr. Mae mam wedi bod yn bleidiol iawn i’r awdures Gymraeg, Kate Roberts, ac mae hi wastad yn fy annog i godi mwy o nofelau Cymraeg.
Mae darllen nofelau Cymraeg yn tanio gwahanol rannau o’ch ymennydd. Mae yna nofel gyfareddol gan T Llew Jones dwi’n cofio ei darllen pan o’n i’n iau, mae dechrau’r nofel wedi’i ysgythru yn fy nghof. Y ffordd y defnyddiodd ddarnau disgrifiadol yn y Gymraeg a oedd yn atseinio go iawn, rwy’n amau a fyddai wedi cael yr un effaith yn Saesneg.
Mae swyn unigryw i ddarllen am gymunedau, pentrefi a lleoliadau cyfarwydd. Dwi’n meddwl, yn fy arddegau, roeddwn i eisiau dianc a mynd i rywle gwahanol. Ond nawr fy mod i ychydig yn hŷn, rydw i eisiau dychwelyd.
Rhestr Ddarllen Steffan
The Lord of the Rings – J.R.R. Tolkien
The Hobbit – J.R.R. Tolkien
Tân ar y Comin – T Llew Jones
Te yn y Grug – Kate Roberts
Sali Mali – Mary Vaughan Jones
Y Pry Bach Tew – Mary Vaughan Jones