Morgan Dafydd yw Cadeirydd y panel sy’n beirniadu’r llyfrau Cymraeg yng nghategorïau cynradd ac Uwchradd Gwobrau Tir na n-Og 2023. Ef yw sylfaenydd y wefan wych Sôn am Lyfra. Mae wedi bod yn siarad gyda ni am sut mae ei gariad at ddarllen wedi datblygu dros y blynyddoedd.
Cefais fy magu ar gyrion tref hanesyddol Conwy yng ngogledd Cymru. Ar ôl treulio pum mlynedd yn dysgu mewn ysgol gynradd yn Nyffryn Conwy enillais ysgoloriaeth i wneud PhD yn edrych ar ffyrdd newydd o gefnogi ac annog plant i ddarllen a mwynhau llenyddiaeth Gymraeg.
A bod yn hollol onest, doeddwn i ddim yn ddarllenydd mawr pan oeddwn i’n ifanc, er i Mam druan drio ei gorau glas i fy mherswadio.
Faswn i byth wedi dewis darllen nofel bryd hynny, ond roeddwn i’n mwynhau edrych ar lyfrau ffeithiol fel gwyddoniaduron a llawlyfrau – enwedig unrhyw beth oedd yn ymwneud ag awyrennau, llongau a threnau.
Un llyfr dwi’n cofio ei ddarllen yn rheolaidd ydi Gwyddoniadur Mawr y Plant. Roeddwn i wrth fy modd yn dysgu sut mae pethau’n gweithio a dwi’n meddwl bod llyfrau ffeithiol wedi magu fy chwilfrydedd am y byd sydd o’n cwmpas.
Pan oeddwn i’n dysgu, roeddwn i’n cadw llygad ar lyfrau i blant er mwyn gallu awgrymu teitlau i’r disgyblion eu darllen yn ogystal â dewis nofelau dosbarth fyddai’n apelio atynt. Gan fod y rhan helaeth o’r plant ddim yn siarad Cymraeg gartref, roedd hi’n her gyson i geisio eu denu i ddarllen llyfrau Cymraeg – byd oedd yn anghyfarwydd iawn i’r plant a’u rhieni.
Ar ôl gadael dysgu, roedd gen i dipyn mwy o amser i gadw golwg ar yr holl lyfrau newydd a phenderfynais rannu fy ngwybodaeth a fy marn gyda rhieni ac athrawon, felly sefydlais y wefan Sôn am Lyfra gyda fy mhartner Llio.
Dwi’n adolygu llyfrau Cymraeg hen a newydd i blant a phobl ifanc ac yn adolygu pob un yn onest ac yn ddwyieithog, gan obeithio y bydd yn gymorth i bobl ddewis teitlau addas. Mae yna lyfrau gwreiddiol ac addasiadau ardderchog yn cael eu cyhoeddi ac mae yna lwyth o glasuron yn casglu llwch ar ein silffoedd.
Dwi’n teimlo fy mod i wedi colli allan braidd drwy beidio â darllen mwy tra oeddwn yn yr ysgol, ac erbyn hyn dwi’n teimlo fod gen i lot o waith dal i fyny i’w wneud.
Dwi wedi gwirioni gyda nofelau T. Llew Jones a Gareth F. Williams a dwi’n difaru peidio eu darllen ynghynt. Petawn i ond wedi mentro eu darllen pan oeddwn i yn yr ysgol! Ond dwi’n meddwl ei bod hi’n hynod o bwysig fod plant a phobl ifanc yn dewis y llyfrau iawn ar gyfer darllen er pleser, a dwi’n falch o weld bod mwy o amrywiaeth yn dechrau ymddangos yn ein llenyddiaeth yng Nghymru sy’n beth da iawn i’n darllenwyr ifanc.
Mae darllen mor bwysig ar gyfer pob rhan o fywyd – fedra i ddim pwysleisio hynny ddigon! Mae’n hyrwyddo creadigrwydd, yn bwydo dychymyg iach ac yn cynnig sgiliau trosglwyddadwy a defnyddiol ar gyfer y byd gwaith, megis datrys problemau.
Mae wir yn fraint cael fy ngwahodd i fod yn feirniad ar gyfer gwobr mor bwysig â Gwobr Tir na n-Og. Mae’n ffordd wych o roi cyhoeddusrwydd i lyfrau newydd yn ogystal â dod â thipyn o sylw i’r byd llenyddiaeth plant ehangach yng Nghymru.