Jo Bowers, Cadeirydd

Jo Bowers, Cadeirydd Panel Beirniaid Saesneg Tir na n-Og 2021

Mae Jo Bowers yn Ddeon Cysylltiol ym maes Partneriaethau ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Bu’n aelod o’r panel beirniaid Saesneg ar gyfer Gwobrau Tir na n-Og 2020 a hi yw’r Cadeirydd yn 2021. Mae llyfrau yn rhan annatod o’i gwaith bob dydd ond, meddai, maen nhw hefyd wedi bod yn rhan bwysig o’i bywyd ers yn blentyn.

Bu diddordeb gen i erioed mewn llenyddiaeth plant, datblygu darllen er pleser ymysg plant, ynghyd â datblygu gwybodaeth pwnc athrawon am lenyddiaeth plant er mwyn cefnogi hyn.

Ers i fi allu dal llyfr rydw i wedi mwynhau darllen. Rwy’n cofio’n glir y diwrnod agorodd siop lyfrau annibynnol yn y dref lle ro’n i’n byw. Aeth fy mam â fi yno un bore Sadwrn ac fe ges i ddewis unrhyw lyfr ro’n i eisiau, a dyna lle dechreuodd fy nghariad at siopau llyfrau. 

 

Ro’n i’n mynd i’r llyfrgell yn rheolaidd hefyd, felly roedd fy nhrwyn mewn llyfr o hyd, felly doedd hi’n ddim syndod i mi astudio llenyddiaeth Saesneg yn y brifysgol ac yna dilyn cwrs ymarfer dysgu. Rhwng y ddwy radd, un o fy swyddi oedd gweithio mewn siop lyfrau, wrth gwrs! 

Pan ddechreuais i ddysgu plant oedran cynradd, aildaniwyd fy nghariad at lyfrau plant ac fe ddaeth llyfrau yn rhan ganolog o’m dysgu ar draws y cwricwlwm i gyd.

Am y 15 o’r 19 mlynedd ro’n i’n dysgu, fi oedd arweinydd llythrennedd yr ysgol. Fel rhan o’r gwaith yma cyflwynais i fentrau drwy’r ysgol gyfan i ddathlu llyfrau ac annog plant i ddarllen er pleser.

Yn 2008 dechreuais weithio fel darlithydd llythrennedd mewn addysg gynradd, gan addysgu a chefnogi athrawon dan hyfforddiant a rhannu fy nghariad a’m hangerdd dros lyfrau âr myfyrwyr. 

Fel rhan o ’ngwaith rwy’n trefnu digwyddiadau llythrennedd yn y brifysgol, gan gynnwys sgyrsiau awduron, digwyddiadau gyda Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales, siarad ac arwain gweithdai mewn cynadleddau a rhannu ymchwil ar arferion da yn ymwneud â llyfrau a darllen i blant.

Yn ogystal â hyn, fi yw cynrychiolydd Cymru i’r United Kingdom Literacy Association (UKLA), ac rydw i wedi bod yn olygydd cylchgrawn llythrennedd athrawon cynradd yr English Association, English 4-11, sy’n dathlu ac yn rhannu prosiectau gyda phlant ym Mhrydain a thu hwnt sydd yn ymwneud â llyfrau plant.

Erbyn hyn rwy’n aelod o fwrdd golygyddol y cylchgrawn ac yn ysgrifennu erthyglau ar ei gyfer yn rheolaidd. Rwy’n rhedeg grŵp darllen er pleser ar gyfer athrawon ac yn adolygu ystod eang o blant yn rheolaidd. 

Mae llyfrau plant wedi bod wrth graidd fy ngyrfa addysgu ac rwy’n parhau i’w darllen yn frwd. Yn y cymunedau a’r grwpiau rwy wedi gweithio â nhw gwelais sut mae llyfrau plant yn rhoi pleser, yn creu cymunedau o ddarllenwyr ac yn cefnogi llesiant.

Mae myfyrwyr ac athrawon yn dweud yn aml fod llyfrau fel ffrindiau gorau yn ystod adegau anodd! Yn ystod y pandemig a’r cyfnodau clo diweddar mae llawer o athrawon wedi bod yn dweud bod darllen ar goedd, gartref ac yn yr ysgol, wedi bod yn llesol iawn i blant ac athrawon. Mae gwneud hyn yn cynnig cysur ac amser i bawb ymlacio a chodi calon.

Gweld myfyrwyr ac athrawon yn datblygu eu cariad eu hunain at ddarllen, ac yn eu tro yn ysbrydoli’r plant maen nhw’n eu dysgu, yw un o bleserau mwyaf fy ngwaith i. 

Rydw i wrth fy modd yn bod yn feirniad gwobrau Tir na n-Og. Mae’n hollbwysig i blant weld eu hunain, a llefydd sydd yn gyfarwydd iddyn nhw, mewn llyfrau, ac i blant yng Nghymru mae hynny’n golygu llefydd yng Nghymru.

Gwobr Tir na n-Og yw’r unig wobr llyfrau plant sy’n gosod hynny fel maen prawf, sy’n ei gwneud yn wobr unigryw ac yn lle i ddathlu’r llenyddiaeth plant Gymreig orau.