Jannat Ahmed

Beirniaid Tir na n-Og 2023: Jannat Ahmed

Jannat Ahmed yw prif olygydd Lucent Dreaming.

Cefais fy ngeni a’m magu yn y Barri ac erbyn hyn rwy’n rhedeg fy nghylchgrawn ysgrifennu creadigol fy hun o’r enw Lucent Dreaming.

Rwyf wedi gweithio i Poetry Wales lle sefydlais gystadleuaeth farddoniaeth ledled y DU ar gyfer beirdd ifanc o’r enw Gwobr Beirdd Ifanc Cymru. Rwyf hefyd yn dysgu’n achlysurol ym Mhrifysgol Caerdydd.

 

Un o fy atgofion cynharaf o ddarllen yw benthyg hen lyfrau Enid Blyton o dŷ fy mam-gu. Roedd meddwl am fy modryb yn darllen yr un llyfrau pan oedd hi’n blentyn yn gyffrous iawn.

Rydw i hefyd yn cofio llawer o athrawon caredig fel Miss Jones a Miss Jenkins yn fy ysgol gynradd yn rhoi benthyg eu hoff lyfrau nhw i fi ddarllen! 

Trwy ddarllen llyfrau plant des i’n fwyfwy chwilfrydig am ysgrifennu a darlunio. (Mae llyfrau plant mor lliwgar, ac yn bethau prydferth i’w darllen. Dim ond yn ddiweddar mae llyfrau oedolion yn cyrraedd yr un safon o ran dyluniad, yn fy marn i.)

Roeddwn i’n dwlu ar ddweud straeon wrth fy chwiorydd bach, ac roedd darllen barddoniaeth yn yr ysgol yn gwneud i fi eisiau ysgrifennu cerddi gartref. Nawr rwy’n ddigon ffodus i allu darlunio straeon yn fy nghylchgrawn ac ysgrifennu cerddi sydd weithiau’n cael eu cyhoeddi.  

Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn bod llyfrau i bawb am bopeth. Mae llyfrau a’u straeon a’u cerddi wedi fy helpu i ddeall mwy am y byd.

Pan mae pethau’n anodd neu’n drist, mae llyfrau’n gallu fy atgoffa i am beth sy’n bwysig. Llyfrau sydd â chymeriadau caredig, dewr sy’n gwerthfawrogi cyfeillgarwch sydd yn fy nenu i fwyaf.  

Llyfrau plant yw rhai o’r llyfrau gorau sydd i’w cael, ond mae dau brif reswm pam fy mod i’n edrych ymlaen at fod yn feirniad.

Yn gyntaf, rwy’n awyddus i ddarllen llyfrau plant newydd sydd wedi’u gosod yng Nghymru ac i gael rhannu fy awgrymiadau. (Yr unig lyfr wedi’i osod yng Nghymru rwy’n cofio darllen yw hunangofiant Roald Dahl.)

Yn ail, byddai’r Jannat ifanc mor hapus! Mae cymaint o deitlau gwych i’w mwynhau eleni, ac mae’n fraint eithriadol cael fy ngwahodd i’w beirniadu nhw.