Alex Ball

Alex Ball, un o feirniaid llyfrau Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2021

Fel Uwch-gynorthwyydd Llyfrgell gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, mae Alex Ball yn byw a bod byd y llyfrau. Mae hi hefyd yn gyfarwydd gyda bod yn rhan o gystadlaethau gwobrwyo llyfrau. Darllenwch ymlaen i ganfod mwy.

Rwy’n llyfrgellydd cymwysedig ac wedi gweithio mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ers amser hir – yn gynorthwyydd llyfrgell, llyfrgellydd cynorthwyol, llyfrgellydd cymunedol ac ar hyn o bryd rwy’n uwch-gynorthwyydd llyfrgell yn gweithio i Wasanaeth Llyfrgelloedd Caerffili.

Rwy’n ysgrifennydd y Grŵp Llyfrgelloedd Ieuenctid (Youth Libraries Goup) yng Nghymru ac yn drysorydd dros dro ar y grŵp hefyd. Yn ddiweddar dechreuais MA mewn llenyddiaeth plant, ac rydw i wrth fy modd. Pan dydw i ddim yn darllen rwy’n mwynhau ioga, dawnsio bola, crochet a lliwio.

Alla i ddim cofio adeg pan doeddwn i ddim yn gallu darllen ac roeddwn i’n byw ac yn bod yn ein llyfrgell leol yn ystod fy mhlentyndod. Rwy’n credu i mi ddarllen pob un o’r llyfrau yn adran y plant ac roeddwn i’n gofyn a gofyn i gael benthyg llyfrau o adran yr oedolion hefyd.

Pan oeddwn i’n gweithio fel llyfrgellydd cymunedol, ro’n i’n gweithio gydag ysgolion, meithrinfeydd a grwpiau Dechrau’n Deg. Am gyfnod, roeddwn i’n llyfrgellydd Dechrau Da ac yn trefnu gweithgareddau ac adnoddau. Trwy fy ngwaith gyda’r Grŵp Llyfrgelloedd Ieuenctid yng Nghymru rydw i wedi helpu creu rhestr fer o enwebiadau Cymru ar gyfer gwobrau Carnegie a Greenaway CILIP.

Mae llyfrau yn cynnig cysur i i, ac mae gen i bentwr ohonyn nhw’n barod ar bob achlysur, rhag ofn. Mae’r llyfrau plant sydd ar gael erbyn hyn yn fy rhyfeddu i achos doedd dim llawer o ddewis pan o’n i’n ifanc.

Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn bod plant yn darllen, a’u bod yn clywed straeon er mwyn datblygu eu sgiliau llythrennedd ac i helpu eu hiechyd meddwl trwy leihau straen.

Mae amser stori i blant bach, fel y rhai sy’n cael eu hannog gan Dechrau Da, yn gallu helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol hefyd, a dysgu plant i gyfathrebu trwy rannu straeon.

Mae’n fraint cael bod yn un o feirniaid Gwobr Tir na n-Og a chael darganfod llyfrau â dylanwad Cymreig. Mae darllen am lefydd rydych chi’n gyfarwydd â nhw yn hyfryd ac mae dysgu am lefydd anghyfarwydd yng Nghymru yn gyffrous.

Rwy’n edrych ymlaen at ddarganfod y arbennig hynny sy’n annog plant i ddarllen ac i ymddiddori mewn llyfrau.