Kate Wynne

Headshot of Kate Wynne

Ro’n i’n ddarllenydd brwd pan o’n i’n blentyn, yn gwirioni ar bob math o lyfrau, o Dahl i Blyton i Dick King-Smith. Arweiniodd y cariad hwn at ddarllen at ennill gradd Llenyddiaeth Saesneg, lle bûm yn astudio modiwlau ar lenyddiaeth Saesneg Cymru a llenyddiaeth plant. Ar ôl graddio, dechreuais weithio mewn llyfrgelloedd a dewis gyrfa yn y byd hwnnw. Fel llyfrgellydd academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, dwi wedi gweld yr effaith mae darllen yn ei chael ar yrfa academaidd unigolyn, o wella geirfa i ehangu gwybodaeth gyffredinol, ynghyd â’r manteision ddaw o ran lles iechyd meddwl.  

A minnau’n fam i ddau blentyn sydd wedi etifeddu cariad eu mam at ddarllen, dwi wedi ailddarllen sawl hoff lyfr o’m plentyndod, ac wedi darganfod sawl un newydd. Mae rhannu llyfrau ry’n ni’n gwirioni arnyn nhw’n bleser, ac mae darllen cyn cysgu yn dal yn rhan bwysig o’n diwrnod fel teulu. 

Dwi wrth fy modd yn medru argymell llyfrau i ffrindiau ac aelodau o’r teulu, gan fy mod yn grediniol bod cariad at ddarllen yn cychwyn yn ein plentyndod. Dwi’n edrych ymlaen yn arw at fod ar banel beirniaid Gwobrau Tir na n-Og.