Dyma’r llyfrau a gyrhaeddodd y rhestr fer yng Ngwobrau Tir na n-Og 2022.
Cyhoeddir enillwyr y categorïau Cymraeg ar ddydd Iau, 2 Mehefin yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych, ac enillydd y categori Saesneg ddydd Gwener, 20 Mai ar y Radio Wales Arts Show.
CATEGORI CYMRAEG – CYNRADD
Gwil Garw a’r Carchar Crisial, Huw Aaron (Llyfrau Broga 2021)
Llyfr llawn doniolwch, digwyddiadau dychmygus, bwystfilod arbennig, a phrif gymeriad sydd rhywsut yn gallu goroesi pob trallod ac anhrefn.
Sara Mai a Lleidr y Neidr, Casia Wiliam (Y Lolfa, 2021)
Stori sy’n gafael o’r cychwyn cyntaf, yr ysgrifennu yn gelfydd, yn gymesur ac yn meddu ar hiwmor rhwydd.
Gwag y Nos, Sioned Wyn Roberts (Atebol, 2021)
Stori lawn antur sy’n hoelio sylw’r darllenydd o’r paragraffau cyntaf, ac yn portreadu byd estron y Wyrcws yn gynnil ac yn afaelgar.
CATEGORI CYMRAEG – UWCHRADD
Hanes yn y Tir, Elin Jones (Gwasg Carreg Gwalch, 2021)
Cyfrol hardd sydd, yn symlrwydd y cyflwyniad a’r ieithwedd, yn gwneud hanes cymhleth yn hygyrch i’r darllenydd.
Y Pump, gol. Elgan Rhys (Y Lolfa 2021) Casgliad o straeon heriol ac arbrofol sy’n cydblethu i greu un cyfanwaith ardderchog.
Fi ac Aaron Ramsey, Manon Steffan Ros (Y Lolfa, 2021)
Nofel gyfoes a gafaelgar sy’n cyflwyno cymeriadau real o gig a gwaed sy’n taro tant gyda darllenwyr ifanc heddiw.
CATEGORI SAESNEG
Welsh Fairy Tales, Myths and Legends gan Claire Fayers (Scholastic, 2021)
‘Llyfr hyfryd yn llawn straeon rhyfeddol, difyr a chyffrous o fyd y tylwyth teg, mythau a chwedlau Cymreig, sy’n cael eu hadrodd o’r newydd gyda chynhesrwydd mawr ac yn llawn hiwmor.’
10 Stories from Welsh History that everyone should know gan Ifan Morgan Jones (darluniau gan Telor Gwyn) (Dragon Press, 2021)
‘Cyflwyniad arbennig i ddeg ffigur allweddol a digwyddiadau yn hanes ein gwlad, gyda’r wybodaeth wedi’i chyflwyno mewn ffordd hynod hygyrch a darllenadwy, gyda darluniau trawiadol.’
Swan Song gan Gill Lewis (Barrington Stoke Ltd, 2021)
‘Llyfr hardd ac emosiynol am rym iachaol natur; er gwaethaf ei dynerwch telynegol a chain, mae iddo neges bwerus am obaith ac adferiad.’
The Valley of Lost Secrets gan Lesley Parr (Bloomsbury Publishing Ltd, 2021)
‘Stori afaelgar wedi’i gosod yng nghymoedd de Cymru mewn cyfnod o ryfel, sydd yn llawn dirgelwch a chynllwynio ond caredigrwydd a chyfeillgarwch yn ogystal.’