Lleucu Non

Headshot of Lleucu Non

Dwi’n dod yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle ond dwi wedi byw yn Aberystwyth fel myfyriwr ers 2020. Erbyn hyn, dwi’n astudio ar gyfer gradd MPhil mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn y blynyddoedd diwethaf, cefais gyfle i gyfrannu at gylchgrawn digidol Lysh Cymru, yn ogystal â bod yn olygydd gwadd am gyfnod byr. Dwi hefyd wedi cyfrannu at ddau rifyn o’r cylchgrawn Codi Pais ac wedi cyhoeddi fy stori fer gyntaf yng nghyfrol Ar Amrantiad a gyhoeddwyd gan wasg Sebra. Dwi’n gobeithio parhau â’m gyrfa lenyddol drwy gael swydd yn y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. 

Darllen yw un o’m prif ddiddordebau erioed, a’r diddordeb hwn a enynnodd fy nghariad at greu ac ysgrifennu fy straeon fy hun. Fy hoff lyfr pan o’n i’n dair oed oedd Strempan o gyfres Rwdlan gan Angharad Tomos ac, yn sicr, cyfres Rwdlan a byd Gwlad y Rwla oedd fy ffefrynnau am sawl rheswm. Ymysg y cewri llenyddol o’m plentyndod mae Mary Vaughan Jones, Angharad Tomos, Bethan Gwanas, Jacqueline Wilson, Roald Dahl a Philip Pullman. Dwi’n hoff iawn o wahanol genres – o ffantasi i ffuglen wyddonol a rhamant, a dwi’n arbennig o hoff o lyfrau sy’n herio ein ffordd o feddwl!  

Pan nad ydw i’n darllen neu’n ysgrifennu, dwi’n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth neu fynd i’r sinema a’r theatr. Fy hoff gynhyrchiad eleni yw Nye (NT Live) a wyliais yn fyw o sinema Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Diddordeb arall sydd gennyf yw gweu, sydd wedi bod yn fodd o ymlacio a therapi i mi, a dwi’n mwynhau gweu pob math o bethau!   

Mae’n fraint a hanner cael bod yn rhan o’r panel beirniadu y flwyddyn hon, a dwi’n edrych ymlaen yn arw at ddarllen y llyfrau i gyd. Diolch yn fawr!