Rhys Dilwyn Jenkins

A picture of Rhys Dilwyn Jenkins

Dwi’n bennaeth ar Adran Gyfieithu Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac yn byw ger Caerdydd. 

Ro’n i’n mwynhau darllen yn arw pan oeddwn i’n iau, ond roedd fy swyddi prysur wrth fynd yn hŷn yn golygu nad oedd gen i lawer o amser i ddarllen. Gwnaeth y cyfnodau clo ailgynnau’r sbarc, a chreais gyfrif Instagram lle dwi’n ysgrifennu adolygiadau o lyfrau Cymraeg a Saesneg. 

Roedd tyfu i fyny mewn ardal Seisnig ym Mhort Talbot yn golygu na chefais gyfle i ddarllen unrhyw lyfrau Cymraeg, ond ers dod yn rhugl yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, dwi wedi gallu profi’r llawenydd ddaw yn sgil darllen llenyddiaeth Gymraeg. Rydyn ni, siaradwyr Cymraeg, mor ffodus ein bod ni’n gallu darllen llyfrau mewn dwy iaith. 

Ymunais â chlwb Llyfrau Lliwgar yng Nghaerdydd yn ddiweddar – mae’n brofiad hyfryd cael trafod llyfrau yn ymwneud â materion LHDTC+ gyda grŵp mor gyfeillgar.  

Braint yw bod ar y panel eleni – dwi’n edrych ymlaen at weld beth sydd gan awduron Cymru i’w gynnig!