
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn cefnogi cyhoeddwyr mewn sawl ffordd er mwyn sicrhau twf a ffyniant y sector llyfrau yng Nghymru.
Bob blwyddyn, rydym yn gweinyddu grantiau cyhoeddi ar gyfer ystod eang o gyhoeddiadau o Gymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Llywodraeth Cymru sy’n cyllido’r grantiau hyn a’r nod yw sicrhau bod dewis eang ar gael i ddarllenwyr yng Nghymru o ddeunydd Cymraeg neu Saesneg ag iddo ffocws diwylliannol Cymreig.
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau proffesiynol, arbenigol i gyhoeddwyr, yn cynnwys dylunio, golygu a dosbarthu llyfrau.
Mae manylion am y grantiau a’r gwasanaethau gwahanol sydd ar gael i gyhoeddwyr yng Nghymru i’w cael isod.
Mae croeso hefyd i gyhoeddwyr neu ddarpar gyhoeddwyr gysylltu gyda’n Hadran Grantiau a Chyhoeddi am wybodaeth bellach.