
Yn elusen genedlaethol cawsom ein sefydlu yn Aberystwyth yn 1961 ac rydym yn cyflogi o ddeutu 40 o staff.
Rydym yn darparu gwasanaethau arbenigol i gyhoeddwyr ym meysydd golygu, dylunio, marchnata a dosbarthu er mwyn sicrhau safonau uchel o ran cynhyrchu a chyhoeddi deunydd yn y Gymraeg neu ddeunydd yn y Saesneg sy’n ymwneud â Chymru.
Rydym hefyd yn gyfrifol am weinyddu grantiau i gefnogi cyhoeddi llenyddol a chylchgronau yn y ddwy iaith, yn ogystal â gwasanaeth newyddion ar-lein.
Elfen bwysig arall o waith y Cyngor Llyfrau yw hybu llythrennedd a darllen er pleser. Rydym yn gwneud hyn nid yn unig drwy sicrhau llif cyson o gyhoeddiadau ond hefyd drwy drefnu cyfres o weithgareddau arbennig yn dathlu darllen, gan gydweithio gydag ystod eang o bartneriaid yn y maes.
Daw’n cyllid yn rhannol gan Lywodraeth Cymru ac yn rhannol o weithgareddau masnachol a gwasanaeth cyfanwerthu ein Canolfan Ddosbarthu.
Mae ein prif swyddfa yng Nghastell Brychan yn Aberystwyth tra fod y Ganolfan Ddosbarthu wedi’i lleoli ar Barc Menter Glanyrafon ar gyrion y dref.