![The Biggest Book Show On Earth 2019 at The Hafren, Newtown A group of children pictured at a World Book Day event organised by the Books Council of Wales in 2019.](https://llyfrau.cymru/wp-content/uploads/2021/01/Diwrnod-y-Llyfr-6-scaled.jpg)
Cafodd Diwrnod Llyfr y Byd ei greu gan UNESCO yn 1995 i ddathlu llyfrau ac awduron ac i annog pobl ifanc i ddarganfod pleserau darllen.
Diwrnod y Llyfr yw’r elusen gofrestredig sy’n hyrwyddo’r dathliad blynyddol mwyaf o lyfrau plant drwy’r byd.
Cynhaliwyd y digwyddiad am y tro cyntaf yn y DU yn 1997
Erbyn hyn, mae’n cael ei ddathlu mewn mwy na 100 o wledydd ledled y byd
Ei nod o hyd yw dathlu manteision darllen er pleser i bawb, ym mhob man – gan hyrwyddo rhyfeddodau darllen, grym dychymyg a phwysigrwydd rhannu straeon.
I nodi’r diwrnod bob blwyddyn, mae plant yn derbyn tocyn £1 Diwrnod y Llyfr i’w gyfnewid am un o lyfrau Diwrnod y Llyfr, neu gallant eu defnyddio i gael £1 o ostyngiad ar unrhyw lyfr neu lyfr sain o’u dewis, sy’n costio £2.99 neu fwy.
Mae’r diwrnod hefyd yn dod â llyfrau’n fyw i blant drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd wedi’u trefnu mewn ysgolion, siopau llyfrau, llyfrgelloedd ac yn y cartref.
Yng Nghymru, caiff ymgyrch Diwrnod y Llyfr ei gydlynu gan y Cyngor Llyfrau a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Waterstones.