Bu miloedd o blant ym mhob rhan o’r wlad yn cymryd rhan yn y sialens ddarllen yn 2024. Y thema oedd ‘Crefftwyr Campus’.
Llwyddodd sialens ddarllen The Reading Agency a’r llyfrgelloedd cyhoeddus i gyrraedd 32,341 o blant ledled Cymru yn ystod gwyliau haf yr ysgolion. Mae’r sialens yn cael ei chymeradwyo gan rieni, athrawon, Cyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru.
Gyda phwysau cynyddol ar y system llyfrgelloedd cyhoeddus o ran staffio ac adnoddau, mae’n galonogol bod llyfrgelloedd yn dal i allu cynorthwyo llawer iawn o blant i ddarllen yn ystod gwyliau’r haf, gyda 45% yn mynd ymlaen i gwblhau’r sialens a darllen chwech neu ragor o lyfrau.
Dyma’r ffigurau i gyd i chi mewn un rhestr dwt!
- 32,341 o blant ledled Cymru yn cymryd rhan
- 3,189 o’r rhain o dan 3 oed ac yn cymryd rhan gyda deunyddiau cyn-ysgol arbennig
- 27,207 o blant rhwng 4–11 oed wedi cymryd rhan drwy ymweld â’u llyfrgell leol (10% o blant rhwng 4–11 oed yng Nghymru)
- Cwblhaodd 15,440 o blant y sialens drwy ddarllen o leiaf 6 llyfr llyfrgell (45%)
- Darllenwyd 796,892 o lyfrau, e-lyfrau a llyfrau llafar yn ystod y Sialens
- Ymunodd 5,506 o blant â’r llyfrgell fel aelodau newydd
- Bu 30,678 o blant mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau mewn llyfrgelloedd