Dr Caroline Owen Wintersgill – Ymddiriedolwr

Dr Caroline Wintersgill

Mae Dr Caroline Owen Wintersgill yn Uwch Ddarlithydd ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer gradd Meistr Astudiaethau Cyhoeddi ym Mhrifysgol Stirling. Mae ganddi ddoethuriaeth ym maes darllen, ysgrifennu a chyhoeddi llenyddiaeth gyfoes. Mae ei hymchwil ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar werthoedd a heriau cyhoeddi i genhedloedd bychain a rhanbarthau ar draws y Deyrnas Unedig. Cyn symud i’r byd academaidd, bu’n gweithio am dros 25 mlynedd i rai o gyhoeddwyr blaenllaw Prydain, gan gynnwys Routledge, Bloomsbury a Manchester University Press.