Mae Cyngor Llyfrau Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, wedi creu cyfres arbennig o fideos gydag awduron plant o Gymru i ysbrydoli a chefnogi darllen er pleser gartref neu yn yr ystafell ddosbarth.
Mae’r awduron yn siarad am beth mae darllen yn ei olygu iddyn nhw ac yn trafod y stori y tu ôl i’r stori. Maen nhw hefyd yn rhoi darlleniad byr ac yn gosod her greadigol.