Imogen Davies

Headshot of Imogen Davies

Fy enw yw Imogen, dwi’n 23 oed ac yn dod o Aberystwyth. Arweiniodd fy magwraeth ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) at gariad at ieithoedd. Astudiais Ffrangeg, Sbaeneg a Chatalaneg ym Mhrifysgol Durham a threulio trydedd flwyddyn fy ngradd yn Barcelona, yn gweithio fel cynorthwyydd Saesneg mewn ysgol uwchradd Gatalaneg. Hefyd, bûm yn dderbynydd mewn lle gwyliau am dri mis dros yr haf yn Pays Basque, ger Biarritz yn ne-orllewin Ffrainc. Dysgais am amrywiol ddiwylliannau a gwerthoedd drwy’r profiadau hyn, wrth gwrdd â phobl newydd, a chael ysbrydoliaeth hefyd ar gyfer fy nghasgliad cyntaf o farddoniaeth, Distances 

Gan fod fy ngherddi wedi’u cyhoeddi eisoes mewn rhai cylchgronau llenyddol, megis Acumen Poetry: Young Poets a Young Poets Collection Gŵyl Lenyddol Stratford yn 2022, penderfynais ysgrifennu a hunangyhoeddi fy nghasgliad cyntaf o gerddi i ddathlu fy nheithiau ar draws Ewrop yn ystod fy mlwyddyn dramor. Er nad oes cerddi Cymraeg yn y casgliad, mae’r ymdeimlad o hiraeth yn ganolog i bob cerdd, wrth i mi ddygymod â bod oddi cartref am flwyddyn gyfan. Mae’r casgliad yn trafod sut mae pellter yn diffinio ac yn gwyrdroi pob perthynas – â theulu, ffrindiau, partneriaid, a’n perthynas â ni’n hunain, yn iau ac yn hŷn. Trafodaf hefyd bellter amser, lle a chyfeillgarwch agos. 

Dwi wedi bod yn darllen llyfrau Cymraeg a Saesneg ers fy mod yn blentyn. Mae rhai yn dal i fy ysbrydoli, a dwi’n trysori fy nghopi o Lyfr Mawr y Plant hyd heddiw! Gall llenyddiaeth adael argraff barhaus; dyna pam, yn fy marn i, y mae angen bod yn ofalus ynglŷn â pha lyfrau rydyn ni’n eu rhoi i blant a phobl ifanc. Credaf fod llyfrau cyn-enillwyr Gwobrau Tir na n-Og, a’r rheiny ar y rhestrau byrion, yn dangos y goreuon sydd gan Gymru i’w cynnig. 

Arweiniodd fy mrwdfrydedd dros lenyddiaeth at swydd breswyl gyda Gwasg Honno wedi i mi raddio o Brifysgol Durham yn 2023, a chefais gyfle i gyfrannu at hybu llenyddiaeth gan ferched yn fy rôl fel cynorthwyydd marchnata a golygu. Ar hyn o bryd dwi’n dilyn cwrs Meistr mewn Llenyddiaeth Fodernaidd ym Mhrifysgol Caeredin, gan ymddiddori yn yr ymwybyddiaeth fenywaidd yn arbennnig. 

Mae’n fraint cael bod yn feirniad ar banel Gwobrau Tir na n-Og yn 2025. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at bori drwy’r cyfrolau a thrafod y llyfrau ar y rhestr fer gyda’r beirniaid eraill; wedi’r cyfan, dyma’r llyfrau fydd yn ysbrydoli plant a phobl ifanc am genedlaethau lawer.