Lisa Markham

Headshot of Lisa Markam with her horse.

Helô, fy enw yw Lisa Markham a dwi wedi gwirioni ’mod i wedi cael fy ngwahodd i fod yn rhan o dîm beirniadu Gwobrau Tir na n-Og eleni. Diolch yn fawr am y fraint.  

Mae fy ngyrfa yn dipyn o ‘gwilt’ a bod yn onest, ond mae’r seiliau wedi eu gosod yn gadarn gan rieni ac athrawon gwych yn Ysgol Llanegryn, Ysgol Uwchradd Tywyn a Choleg y Drindod. Y llinyn drwy’r cyfan yw ’mod i’n caru llyfrau ac yn cael y cyfle i ddysgu a chreu bywyd cyflawn. 

Erbyn hyn dwi’n wraig ffarm hapus ac yn fam i dri o blant anhygoel, sy’n oedolion erbyn hyn Colin (27), Tom, (23) a Catrin-Elinor (20). Fel tîm ry’n ni’n ffermio yn ardal Cader Idris a Llanfihangely-Pennant, gyda Ken fy ngŵr, ers 30 o flynyddoedd. Mae hon yn gymdeithas amaethyddol heb ei hail, yn llawn cymeriadau a phersonoliaethau sbesial iawn. 

  

Nid oes yr un diwrnod yn mynd heibio heb imi werthfawrogi bro fy mebyd. Mae’n gornel gwirioneddol hyfryd o’r byd sydd wedi ei drwytho mewn hanes – Mari Jones a’r Beibl, Castell y Bere, a chwedlau sy’n agos at fy nghalon fel Clychau Aberdyfi a Llyn Barfog, a chaneuon fel ‘Deio i Dywyn’, a’r cyfan yn adlewyrchu cyfoeth Bro Dysynni. 

Mae’r balans o fywyd prysur, amaethyddol a cheisio cadw fy annibyniaeth fel unigolyn yn hanfodol. Dwi wastad wedi caru llyfrau, ac yn gwirioni ar guddio mewn byd dychmygol a chyffrous. Teimlaf fod fy swydd fel rheolwr llyfrgell Tywyn ers 25 mlynedd wedi chwarae rhan fawr yn rhoi’r ymdeimlad anhygoel o fodlonrwydd i mi. 

Fel ymbarél amryliw, mae’r llyfrgell yn rhoi pob math o brofiadau i mi, ac mae’n miniogi fy awch i fwynhau bywyd. Mae hefyd yn gyfle i roi help llaw i gyflawni breuddwydion pobl eraill o bob oed, a’r cyfle hwn drwy lyfrau sy’n rhoi gwir hapusrwydd imi.  

Yn ogystal, mae darllen wedi fy ysbrydoli i deithio’r byd gyda’m plant ac i ledaenu eu gorwelion. Collais fy mam yn ifanc, ond roedd hi’n ysbrydoliaeth i mi fwynhau diwylliant – cerddoriaeth, llenyddiaeth a hanes. Fe wnaeth hi fy annog i gael y gorau allan o bob dydd, a chofio mwynhau pob eiliad ohono! 

Nid yw’n bosib darllen pob llyfr na theithio i bob gwlad, ond mae fy swydd wedi agor y drysau wrth i mi wrando a dysgu am lyfrau o bob math drwy unigolion amrywiol. Mae llyfrau yn ein galluogi i weld a dysgu llawer mwy am fywyd; mae fel edrych drwy berisgop mewn llong danfor. 

Mae llyfrau wedi fy nghyffwrdd i’r byw, a cheisiaf adlewyrchu hyn a throsglwyddo fy angerdd i’m cwsmeriaid o bob oed sy’n mentro i’r llyfrgell. Boddhad yw croesawu plant y fro yno a cheisio eu cael i fwynhau byd y llyfr. 

Edrychaf ymlaen at y profiad cyffrous newydd yma a fydd, yn ei dro, yn cyfoethogi’r hyn y galla i ei gynnig yn fy mywyd pob dydd.