Athrawes ysgol gynradd wrth ei gwaith bob dydd yw Pooja Antony sy’n ymuno gyda’r panel beirniaid Saesneg am y tro cyntaf yn 2021. Mae’n edrych ymlaen at y dasg, meddai.
Shwmae! Pooja ydw i ac rwy’n athrawes ysgol gynradd ac yn fyfyriwr ôl-raddedig.
Ces i fy magu yn rhwng Hong Kong ac India, a symudais i Gaerdydd i wneud gradd seicoleg.
Ers hynny rydw i wedi hyfforddi fel athrawes ysgol gynradd, wedi gweithio mewn nifer o ysgolion yn cefnogi disgyblion un i un, yn ogystal â gweithio fel gweithiwr cymorth plant gyda Cymorth i Ferched.
Mae fy mhrofiadau yn yr ysgol wedi’u plethu â fy atgofion cyntaf o lyfrau – athrawon yn darllen i fi ac yn fy nghyflwyno i amrywiaeth eang o lyfrau, mynd â llyfrau adref ac ymweld â’r llyfrgell bob wythnos gyda fy mam, a rhestr hir o deitlau ac awduron yn fy llaw. Mae darllen wedi bod yn gysur i fi o hyd, pan o’n i’n blentyn a nawr, fel oedolyn.
Fel athrawes, mae llyfrau’n cynnig ffordd i mi ymgysylltu â’m myfyrwyr, yn ogystal â chynnig testunau i’w trafod, ffyrdd i uniaethu â nhw ac ymestyn eu dychymyg.
Rwy’n credu’n gryf fod y budd ddaw o lyfrau plant ac adrodd straeon yn amhrisiadwy; mae’n tanio’r dychymyg, yn codi chwilfrydedd ac yn caniatáu i blant ymgysylltu â’u cymunedau ehangach.
Fel beirniad Tir na n-Og, rwy’n edrych ymlaen at daflu fy hun i ganol yr holl lyfrau bendigedig sy’n cynrychioli goreuon llenyddiaeth Gymreig i blant a phobl ifanc!