Sioned Dafydd

Headshot of Sioned Dafydd

Sioned Dafydd yw Cadeirydd y panel sy’n beirniadu’r llyfrau Cymraeg yng nghategorïau cynradd ac Uwchradd Gwobrau Tir na n-Og 2024. 

Dwi’n uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, yn gyfrifol am y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar y cwrs TAR Cynradd. Cyn hynny roeddwn i’n athrawes a phennaeth y Gymraeg yn Ysgol Howell, Llandaf.

Mae gen i atgofion melys o wrando ar straeon yn cael eu darllen i fi pan oeddwn yn blentyn, ac mae fy mrawd a’m chwaer yn dal i dynnu fy nghoes am feichio crio wrth i Mam ddarllen Tân ar y Comin gan T. Llew Jones i ni. Yn ysgol Felin-fach ac yna Ysgol Aberaeron, doedd dim yn well na chael treulio gwers yn llyfrgell yr ysgol, a’r ffefrynnau yr adeg honno oedd Cysgod y Cryman Islwyn Ffowc Elis a’r Wisg Sidan gan Elena Puw Morgan.

Fel mam i Lewys a Cadi, sydd bellach yn ei harddegau, dwi wedi mwynhau rhannu llyfrau gyda nhw, hyd yn oed pan oedd rhaid darllen Cacen Sali Mali am y canfed tro! Dwi hefyd wedi cael fy nghyflwyno i awduron newydd ganddyn nhw ac mae nofelau Manon Steffan Ros yn plesio pawb yn y teulu.

Dwi wrth fy modd pan mae fy hoff awduron yn cyhoeddi llyfr newydd ond dwi hefyd yn cael blas mawr ar ail-droi dalennau llyfr cyfarwydd, llyfrau sydd fel hen ffrindiau rydych chi’n cadw mewn cysylltiad â nhw. Dwi’n grediniol bod ymgolli mewn llyfr da yn un o bleserau mwyaf bywyd.