Karen Gemma Brewer

A picture of Karen Gemma Brewer

Fel bardd, gwerthwr llyfrau a chyd-drefnydd Gŵyl Lyfrau Aberaeron, llyfrau yw fy mywyd a’m bywoliaeth.  

Roeddwn i’n ddarllenydd cynnar a brwd, gan symud ymlaen yn gyflym o The Cow Who Fell in the Canal i PaddingtonThe Borrowers a Roald Dahl. Yn ddiweddar cefais anturiaethau yng nghwmni llyfrau glas, pwmpenni sy’n arnofio, a brain clocwaith.  

Yn y siop, mae cwsmeriaid yn gofyn i mi’n gyson am argymhellion ac rwy’n barod i roi fy marn ar sail yr hyn rwyf wedi’i ddarllen a’r hyn y mae pobl ifanc yn awyddus i’w ddweud wrthyf.  

Mae gan Gymru gyfoeth o awduron dychmygus, cyhoeddwyr sydd wedi ymrwymo i amrywiaeth o lenyddiaeth, a llywodraeth sy’n awyddus i roi llyfrau yn nwylo plant. Ychwanegwch ffenomen cyfryngau cymdeithasol, a’r canlyniad yw mwy o bobl ifanc wrth ein silffoedd â syniad pendant o’r math o lyfr maen nhw ei eisiau. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddod â’r safbwyntiau hyn i’r panel beirniadu.