Molly Tidy

A picture of Molly Tidy

Helô! Fi yw Molly o Fedwas, Caerffili, ac ar hyn o bryd dwi’n astudio Saesneg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Warwick. 

Dwi’n angerddol am ddarllen erioed! Roald Dahl, Julia Donaldson a Jacqueline Wilson oedd fy hoff awduron pan o’n i’n blentyn, a thrwy fynychu gwyliau llenyddol a chwrdd ag awduron, tyfodd fy niddordeb mewn llyfrau. 

Yn fy arddegau, ac wedyn fel oedolyn ifanc, roedd fy mryd ar ddod o hyd i lyfrau ag iddynt gysylltiad Cymreig, ac erbyn hyn, fy niddordeb pennaf yw llyfrau sy’n gysylltiedig â hanes, hunaniaeth a threftadaeth Cymru. Ddwy flynedd yn ôl, ces i brofiadau gwych fel aelod o’r Panel Pobl Ifanc, a chyfle i fod yn rhan o’r drafodaeth am hyrwyddo darllen er pleser ymhlith pobl ifanc. 

Mae’n anrhydedd i gael fy newis i fod yn un o feirniaid y gwobrau eleni, a dwi’n edrych ymlaen at ddarllen y llyfrau, a dathlu llenyddiaeth i blant yng Nghymru.