Cyhoeddwyd enwau enillwyr y Gwobrau Cymraeg yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr ym Mharc Margam ar ddydd Mawrth 27 Mai 2025 a’r Wobr Saesneg mewn seremoni arbennig yn Ysgol Penglais, Aberystwyth ar ddydd Mercher, 21 Mai 2025.

Y tri llyfr a ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2025 oedd Arwana Swtan a’r Sgodyn Od gan Angela Roberts (Gwasg y Bwthyn), Cymry.Balch.Ifanc gan Awduron amrywiol, golygwyd gan Llŷr Titus a Megan Angharad Hunter (Rily) a The Twelve gan Liz Hyder (Pushkin Children’s Books ).
ENILLYDD CATEGORI CYMRAEG – CYNRADD

Arwana Swtan a’r Sgodyn Od gan Angie Roberts a Dyfan Roberts, darluniwyd gan Efa Dyfan (Gwasg y Bwthyn)
Dyma nofel fer a doniol dros ben gan awdur sy’n gwybod sut i ddiddori a phlesio plant. Mae pethau’n ddiflas iawn yng Nghaernarfon pan mae Arwana Swtan yn cyrraedd yno yng nghanol storm fawr i aros efo’i thaid, Taidi. Ond diolch i’r fôr-forwyn hynod honno, Swigi Dwgong, daw tro ar fyd i’r dre a’i phobl…
Barn y panel: “Am antur! Fe allech gredu eich bod yn darllen hen chwedl forwrol, ond mae’r stori hon yn fodern a chyfoes gyda chymeriadau lliwgar a digwyddiadau rhyfeddol. Chwa o awyr iach yn gymysg gyda gwynt pysgod!”
Dywedodd Angie Roberts: “’Dan ni ar ben ein digon! Mae’r newyddion gwych yma’n mynd i roi’r hyder i mi ddal ati i sgwennu’r holl straeon sydd yn fy mhen – gan gynnwys mwy o anturiaethau i Arwana Swtan, ei mêts Halan a Finag o’r siop jips, a’r fôr-forwyn fwya sassy yn y byd, Swigi Dwgong.”
ENILLYDD CATEGORI CYMRAEG – UWCHRADD

Cymry.Balch.Ifanc gan awduron amrywiol. Golygwyd gan Llŷr Titus a Megan Angharad Hunter, darluniwyd gan Mari Philips (Rily).
Blodeugerdd bersonol a gonest o straeon 14 o gyfranwyr LHDTCRA+ gyda gwybodaeth ffeithiol am Pride Cymru. Mae’r gyfrol yn anelu at hybu dealltwriaeth ac empathi tuag at y gymuned LHDTCRA+ drwy rannu profiadau personol.
Barn y panel: “Llyfr pwysig i bawb er mwyn dod i adnabod ein hunain ac i adnabod pawb arall. Bydd pobl ifanc sy’n ceisio dod o hyd i’w hunaniaeth yn elwa o glywed am brofiadau’r cyfranwyr yn y gyfrol hon a bydd rhieni, athrawon, neiniau a theidiau, gwleidyddion – pawb – yn cael cyfle i ddysgu fod gan bob un ohonom yr hawl i gael ein deall a’n parchu fel unigolion. Mae’n bwysig bod llyfr fel hwn ar gael yn Gymraeg.”
Dywedodd Llŷr Titus: “Mewn cyfnod lle ’dan ni’n gweld ymosodiadau o bob cwr ar hawliau pobl LHDTCRA+ mae ennill gwobr Tir na n-Og a chael dathlu hynny ar faes gŵyl fel yr Urdd, sy’n ddigamsyniol yn ei chefnogaeth i’n cymuned ni, yn gadarnhad bod gan bawb yr hawl i fod yn falch o bwy ydyn nhw. Fel un o olygyddion y gyfrol mae ennill yn fraint, ond hefyd fel golygydd dyma bwysleisio mai straeon y bobl ifanc o fewn cloriau’r gyfrol ydy’r peth pwysicaf ac mai nhw ddylai gael y sylw heddiw.
Mi allai nifer ohonom wneud efo mwy o empathi, a phan wnaiff yr rheiny ohonoch chi sydd ddim yn deall pobl ifanc LHDTCRA+ neu’n teimlo unrhyw fath o ddrwgdeimlad tuag atyn nhw droi at y straeon o fewn y gyfrol yma, dwi’n mawr obeithio y gwnewch chi fagu’r empathi hwnnw, a dealltwriaeth.”
CATEGORI SAESNEG

The Twelve gan Liz Hyder (cyhoeddwyd gan Pushkin Children’s Books)
Cyhoeddwyd enw’r enillydd mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd brynhawn dydd Mercher 21 Mai yn Ysgol Penglais, Aberystwyth gan y cyflwynydd Sara Gibson, gyda chynulleidfa o ddysgwyr o’r ysgol yn cael y cyfle i gwrdd â rhai o’r awduron oedd ar y rhestr fer.
Mae The Twelve yn stori freuddwydiol dywyll, hudolus i oedolion ifanc. Pan mae Libby, chwaer Kit, yn diflannu oddi ar wyneb y ddaear yn ystod gwyliau teuluol, a does neb arall i’w weld yn ei chofio, mae Kit yn cychwyn ar daith beryglus i ddarganfod y gwir. Mae’r stori hon yn lapio’r darllenydd mewn hud a lledrith a llên gwerin hynafol – yn eich llusgo i ddyfnderoedd eich dychymyg ac yn eich swyno gyda’i hysgrifennu telynegol.
Dywedodd Liz Hyder: “Rwy’n ei theimlo hi’n anrhydedd fawr i ennill gwobr Saesneg Tir na n-Og eleni. Ganed The Twelve allan o gariad dwfn at fyd natur, ac mae’n llythyr caru at Gymru a’i thirweddau. Roedd y rhestr fer yn wych ac roeddwn wedi synnu fy mod arni, hyd yn oed. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddathlu gyda phaned fawr o de Cymreig!”
CATEGORI DEWIS Y DARLLENWYR 2025
Gwobrau arbennig yw’r rhain wedi’u dewis o deitlau’r rhestr fer ymhob categori gan y plant a’r bobl ifanc a gymerodd ran yng Nghynllun Cysgodi Gwobrau Tir na n-Og.
Yr enillwyr yn y tri chategori oedd:
Categori Cymraeg yn y cynradd – Llanddafad gan Gareth Evans Jones , darluniwyd gan Lleucu Gwenllian (Y Lolfa)
Categori Cymraeg yn yr uwchradd – Cynefin, Cymru a’r Byd gan Dafydd Watcyn Williams (Gwasg Carreg Gwalch)
Categori Saesneg – Welsh Giants, Ghosts and Goblins gan Claire Fayers (Firefly)


