JAMES HOOK
Mae James Hook yn awdur, ac yn gyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon.
Magwyd James ym Mhort Talbot, a chwaraeodd i Glwb Rygbi Castell-nedd, y Gweilch, Perpignan a Chaerloyw yn ystod ei yrfa clwb 13 mlynedd. Fe wnaeth hefyd 81 ymddangosiad yn nhîm cenedlaethol Cymru rhwng 2006 a 2015.
Ar ôl gyrfa ddisglair ar bob lefel o’r gêm, ymddeolodd James o rygbi proffesiynol yn 2020, gan ymgymryd â rôl hyfforddi yn un o’i gyn glybiau, y Gweilch.
Mae’n byw gyda’i wraig Kim a’u 3 mab, ac yn ddiweddar mae wedi ysgrifennu dau lyfr rygbi ffuglennol gyda’r cyd-awdur David Brayley.
“Mae darllen a chreu awyrgylch tawel yn hanfodol pan fydd gennych chi dri bachgen ifanc yn y tŷ.”
Boed yn lyfrau, cylchgronau, papurau newydd, erthyglau ar-lein neu e-ddarllenydd, gall pob math o ddarllen helpu plentyn i ddysgu pethau newydd a datblygu ei ymennydd. Er ei bod yn anodd denu plant i ffwrdd o ffonau a chonsolau gemau, gallwch ddysgu cymaint trwy ddarllen, ac mae’n ffurf arall ar adloniant i dechnoleg sy’n seiliedig ar sgrin.
Rwy’n hoff iawn o siocledi, felly roedd Charlie and The Chocolate Factory gan Roald Dahl yn un o fy hoff straeon yn blentyn. Roedd cyfres Mr Men gan Roger Hargreaves hefyd yn fy mhentwr ‘hoff lyfrau’, ac mae’r llyfrau’n ffurfio rhai o’m hatgofion cynharaf o ddarllen, ac maent yn dal i weld yn boblogaidd iawn heddiw.
Wrth dyfu i fyny, doedd dim llawer o lyfrau am rygbi, na chymeriadau mewn llenyddiaeth oedd yn hollol angerddol am rygbi fel fi! Roeddwn i eisiau darllen am bethau yr oeddwn yn hoff iawn ohonynt, ond nid oedd llawer o ddewisiadau ar gael i mi. Y diffyg llyfrau ffuglen yma am rygbi wnaeth fy ysbrydoli i ysgrifennu fy llyfrau, felly gall merched a bechgyn eraill sy’n caru rygbi, neu unrhyw fath o chwaraeon, gael eu hysbrydoli ganddyn nhw.
Roeddwn i hefyd eisiau ysgrifennu llyfrau oherwydd mae gen i dri mab, ac rydw i eisiau ceisio eu hannog i ddarllen cymaint â phosib.
Ar hyn o bryd mae fy ffocws ar arferion darllen fy mhlant a sicrhau fy mod yn darllen gyda nhw fel eu bod nhw’n dysgu’n barhaus. Mae ein mab pum mlwydd oed yn dechrau dod â llyfrau adref o’r ysgol ac mae’n rhan allweddol o’i ddatblygiad cynnar, felly rwy’n treulio llawer o amser yn darllen gydag ef. Rydw i hefyd yn mwynhau darllen fy llyfrau iddyn nhw ac rydw i’n hoffi creu straeon iddyn nhw gan ddefnyddio fy nychymyg. Pe bawn i heb ddarllen gymaint pan oeddwn yn iau, mae’n debyg na fyddwn yn gallu adrodd y straeon rydw i’n eu rhannu gyda fy mhlant nawr.
Amser gwely yw fy hoff amser i ddarllen gyda’r bechgyn. Pan maen nhw’n dod adref o’r ysgol maen nhw ychydig yn aflonydd o’u dyddiau prysur, felly mae amser gwely yn gyfle gwych i’w setlo, darllen llyfr neis a chael amser hyfryd gyda’r teulu. Mae darllen a chreu awyrgylch tawel gyda’r nos yn hanfodol pan fydd gennych dri bachgen ifanc yn y tŷ.
“Gallwch chi wir gymryd y gorau o lyfrau a’u rhoi ar waith yn eich bywyd eich hun.”
Fel cyn-chwaraewr rygbi efallai na fydd rhai yn meddwl amdanaf i fel awdur i ddechrau, ond fe wnes i fwynhau ysgrifennu straeon a bod yn llawn dychymyg yn yr ysgol, felly mae wedi bod o ddiddordeb i mi erioed. Rwy’n falch fy mod wedi gallu trosglwyddo hynny i fy mywyd fel oedolyn. Rwyf am i fy llyfrau ysbrydoli pobl eraill i fod yn fwy creadigol.
Does dim rhaid i chi fod yn un peth yn unig mewn bywyd, gallwch chi ddilyn llawer o ffyrdd. Chwaraeon, celf, ysgrifennu, gwyddoniaeth ac ati. Mae llyfrau’n ysbrydoledig a gallwch chi wir gymryd y gorau ohonyn nhw a’u rhoi ar waith neu eu mabwysiadu yn eich bywyd eich hun.
Mae fy llyfrau yn ffuglen, ond maen nhw wedi’u seilio’n fras ar fy ngyrfa ar y cae ac oddi arno, gan fyfyrio ar faterion bwlio, ysgol, ac uchafbwyntiau ac isafbwyntiau gyrfa mewn chwaraeon.
Mae gen i angerdd am rygbi, fel cefnogwr, fel chwaraewr, a nawr fel hyfforddwr. Rwy’n gallu cyfleu’r cariad a’r diddordeb hwnnw trwy’r ysgrifennu yn fy llyfrau. Mae mor bwysig darllen y pethau rydych yn eu mwynhau; mae’n eich annog i barhau â’ch darllen.
“Mae gweld teithiau bywyd realistig yn cael eu hadlewyrchu mewn llyfrau mor bwysig.”
Y peth gorau am ddarllen yw ei fod at ddant pawb, sy’n golygu y dylem fod yn cynnwys pawb mewn llyfrau, o ba bynnag gefndir y maent yn dod. Sut gallwn ni ddisgwyl i blant ddod o hyd i angerdd am ddarllen, os na allant weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yn y cymeriadau?
Mae gweld teithiau bywyd realistig yn cael eu hadlewyrchu mewn llyfrau mor bwysig. Nid yw popeth yn hwylio’n llyfn – mae yna rwystrau ar y ffordd ac mae’n rhaid i chi weithio’n galed i gyrraedd lle rydych chi eisiau bod, dwi ddim yn meddwl y dylen ni ddal yn ôl rhag dangos hynny mewn llyfrau. Mae llyfrau stori ffuglen llawn dychymyg yn wych ac mae’n dda gadael i’ch dychymyg redeg yn wyllt, ond dwi’n credu y dylai llyfrau adlewyrchu pobl go iawn a straeon go iawn.
Mae darllen wedi fy helpu’n aruthrol yn y gwaith rwy’n ei wneud nawr. Fel hyfforddwr chwaraeon, awdur a hefyd yn berchen ar fusnes, rwy’n gwneud llawer o ddarllen ac ysgrifennu, felly mae darllen o oedran cynnar wedi bod o fudd. Rwy’n annog rhieni i gael eu plant i ddarllen cyn gynted â phosibl, mi fydd yn dod a gymaint o fuddiannau iddynt yn y dyfodol, pa bynnag swydd y maent yn ei dewis.
“Gall llyfrgelloedd fod yn hafan fach gynnes a diogel i rieni a phlant fel ei gilydd,”
Mae arian yn brin i lawer o deuluoedd ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gall a dylai pobl fynd i’w llyfrgell leol os ydynt yn cael trafferth prynu llyfrau newydd i’w plant, maent yn wych ac mae ganddynt ymdeimlad gwirioneddol o gymuned. Ymwelais â llyfrgell Castell-nedd gyda fy nghyd-awdur yn ddiweddar ar gyfer Diwrnod y Llyfr ac roedd yn wych gweld y plant yn dewis llyfrau drostynt eu hunain ac yn gyffrous i’w darllen.
Mae cymaint o amrywiaeth o ran y llyfrau sydd ar gael yn y llyfrgell, a gall y llyfrgellwyr gefnogi eich plant wrth iddynt dyfu a’u sgiliau darllen yn ehangu. Gallwch hefyd ddod o hyd i’ch cyfran deg o lyfrau ffeithiol mewn llyfrgelloedd, i’r rhai sydd â diddordeb mewn dysgu rhywbeth newydd!
Gall llyfrgelloedd fod yn lle cynnes, croesawgar a diogel i rieni a phlant, gan ddianc rhai o heriau bywyd o ddydd i ddydd.
Rhestr ddarllen James
- Charlie And the Chocolate Factory gan Roald Dahl
- Chasing a Rugby Dream gan James Hook a David Brayley
- Cyfres lyfrau Mr Men gan Roger Hargreaves
- Impact gan James Hook a David Brayley