Mae Melanie (Mel) Owen yn awdur, cyflwynydd, a digrifwr stand-yp o Gymru, a’i chredydau sgriptio yn ymestyn o Channel 4 i BBC Cymru.
Dechreuodd taith Mel i fyd comedi ar ôl iddi raddio o Brifysgol Caerdydd yn 2017, lle enillodd radd yn y Gyfraith a Ffrangeg. Blodeuodd ei hangerdd am gomedi, gan ei hysgogi i fuddugoliaeth mewn cystadlaethau stand-yp ledled y DU. Heddiw, mae hi’n wyneb cyfarwydd a phoblogaidd yn y byd cyflwyno a chomedi yng Nghymru.
Ochr yn ochr â chyflwyno, mae Mel hefyd yn sylwebydd newyddion ar gyfer y rhaglen gylchgrawn, Prynhawn Da ar S4C, ac yn ymddangos yn rheolaidd ar Radio Cymru. Mae ei phodlediad Mel, Mal, Jal, a gomisiynwyd gan BBC Sounds, wedi dod yn un o bodlediadau mwyaf poblogaidd Cymru.
“Jacqueline Wilson oedd fy meseia; bob tro y byddai hi’n cyhoeddi nofel newydd mi fyddai fy ffrindiau a fi’n dadlau dros pwy fyddai’n ei darllen gyntaf.”
Pan oeddwn i’n fach, roedd darllen yn rhoi boddhad mawr i mi, ac roeddwn i’n caru unrhyw beth y gallwn i gael fy nwylo arno.
Fy ffefrynnau oedd The Lion, The Witch and The Wardrobe a Charlotte’s Web, llyfrau plant ag ymdeimlad o antur. Fel pob merch arall o fy nghenhedlaeth, roeddwn i hefyd yn caru Jacqueline Wilson – hi oedd fy meseia. Bob tro y byddai hi’n cyhoeddi nofel newydd, byddai fy ffrindiau a minnau’n dadlau pwy fyddai’n ei darllen gyntaf.
Fe wnes i fwynhau llyfrau oedd yn adrodd straeon am bobl go iawn hefyd. Cefais fy magu ar fferm yn y Canolbarth, felly roeddwn yn hoffi darllen am blant a gafodd fagwraeth wahanol i mi, efallai y rhai a gafodd eu magu mewn dinas fawr neu wledydd enfawr fel America.
“Dylai prif gymeriadau benywaidd gael eu hysgrifennu gan fenywod.”
Mae yna debygrwydd rhwng y llyfrau roeddwn i’n eu caru fel plentyn a’r rhai rydw i’n eu dewis fel oedolyn. Rwyf wrth fy modd ag awduron benywaidd ac rwyf wrth fy modd â gwirionedd mewn llyfrau. Ar hyn o bryd, rwy’n hoffi llyfrau Taylor Jenkins Reid, awdur ‘The Seven Husbands of Evelyn Hugo.’ Mae ei llyfrau’n llwyddo i bortreadu hudoliaeth a dyhead gyda darluniau realistig o ddynoliaeth.
Rwy’n hoffi naratifau dan arweiniad menywod, wedi’u hysgrifennu gan fenywod am fenywod oherwydd rwy’n meddwl ei fod yn fwy realistig. Gall cymeriadau benywaidd a ysgrifennwyd gan ddynion syrthio i stereoteipiau, yn fy marn i, dylai prif gymeriadau benywaidd gael eu hysgrifennu gan fenywod, oherwydd mae gennym y profiad byw hwnnw.
Un o fy hoff gymeriadau benywaidd yw Queenie, y ffigwr canolog yn nofel Candice Carty-Williams. Mae hi’n gryf iawn. Dwi hefyd yn hoffi Sephy o Noughts and Crosses gan Malorie Blackman. Mae ganddi fregusrwydd naïf ond mae’n tyfu fel prif gymeriad cryf. Nid yw’n gyd-ddigwyddiad bod y ddau gymeriad hyn yn ferched ifanc du – rwy’n teimlo y gallaf gysylltu â nhw.
Mae’n bwysig bod llenyddiaeth yn adlewyrchu’r Gymru fodern. Mae angen i ni dynnu sylw at y Gymru nad yw pawb yn ei gweld, yn ei hadnabod nac yn teimlo cysylltiad yn eu bywydau eu hunain. Mae cymaint o agweddau i’r Gymru fodern a thrwy lyfrau rydym yn gallu clywed am brofiadau ar lefel ddynol iawn.
Credaf hefyd y dylai llyfrau gynrychioli’r Gymraeg yn ei holl ffurfiau. Mae angen hyrwyddo llyfrau Cymraeg, gan warchod yr iaith a chaniatáu i’r werin, yr eirfa a’r tonau addasu i’r gynulleidfa. Wrth dyfu i fyny, roeddwn i’n arfer darllen un llyfr Saesneg ac un llyfr Cymraeg yr wythnos, fodd bynnag, wrth i amser fynd heibio, mae fy narllen yn mynd yn llai aml – felly mae’n rhywbeth rydw i’n ceisio ail-afael ynddo.
“Mae ffuglen yr un mor bwerus â ffeithiol o ran dysgu am brofiadau pobl eraill.”
Mae’n bwysig nad yw cymeriadau llenyddol sy’n cynrychioli grwpiau lleiafrifol yn cael eu diffinio gan eu hynodrwydd neu wahaniaethau yn unig. Dylai cymeriad ag anabledd ddal i fod â dyfnder, personoliaeth a naratif sy’n mynd y tu hwnt i elfen unigol o’u hunaniaeth. Ni ddylai’r stori bob amser droi o amgylch anabledd y cymeriad ond yn hytrach ei bortreadu fel cymeriad pwysig sy’n digwydd bod yn anabl. Dydw i ddim yn anabl nac yn aelod o’r gymuned LHDTQ+, fodd bynnag, rwy’n awyddus i ddysgu am eu profiadau, i addysgu fy hun ac i fod yn well aelod o gymdeithas.
Mae ffuglen yr un mor bwerus â ffeithiol o ran dysgu am straeon a phrofiadau pobl eraill. O’i ysgrifennu’n dda, gall ffuglen gyfleu negeseuon a gwersi cryf heb orfod chwifio baner amrywiaeth.
“Mae cyfnewid llyfrau hefyd yn gyfle gwych i ddarllen amrywiaeth o lyfrau nad ydych efallai wedi eu hystyried o’r blaen.”
Mae mor bwysig ein bod yn annog plant i ddarllen er pleser.
Mae llyfrgelloedd yn adnodd gwerthfawr, ac mae angen i ni wneud y gorau ohonynt. Mae cyfnewid llyfrau yn gyfle gwych i ddarllen amrywiaeth o lyfrau nad ydych efallai wedi eu hystyried o’r blaen – dim ond un llyfr sydd angen ei brynu ac yna cewch gyfle i ddarllen llond llaw o lyfrau eraill y mae ffrindiau neu deulu wedi’u prynu.
Ffordd arall o annog plant ifanc i ddarllen yw trwy lyfrau sain – mae llawer ohonyn nhw am ddim os edrychwch chi yn y mannau cywir. Gall llyfr sain fod yn bwynt mynediad da ar gyfer ymgysylltu â darllen a straeon.
Awgrym da arall yw edrych ar gynigion newydd gan awduron llai sefydledig, neu’r rhai sy’n hunan-gyhoeddi, mae’r llyfrau hyn yn aml yn fwy fforddiadwy na llyfrau gan awduron sydd wedi ennill eu plwyf.
I mi, mae darllen yn cynnig y cyfle i fwynhau peth amser i fy hun. Yn araf bach dwi’n dod yn well am roi fy ffôn naill ochr ac eistedd i lawr gyda llyfr am awr. Mae hyn yn fy atal rhag sgrolio’n ddiddiwedd ar fy ffôn, ac rwy’n gweld manteision enfawr gyda fy nghwsg wrth ddarllen mwy, yn enwedig cyn mynd i’r gwely.
Rhestr ddarllen Mel
Secrets – Jacqueline Wilson
Pam? – Huw Aaron a Luned Aaron
Noughts and Crosses – Malorie Blackman
Cyfres Y Pump
The Lion, The Witch & The Wardrobe – C.S. Lewis
Charlotte’s Web – E.B. White