Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch iawn o gydweithio â Cheltenham Festivals yn cyflwyno’u rhwydwaith o grwpiau llyfrau athrawon i Wasanaeth Cyflawniad Addysg De Ddwyrain Cymru (EAS) mewn pump awdurdod lleol (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Torfaen).
Mae Reading Teachers = Reading Pupils (RTRP) yn gynllun sy’n cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â sefydliadau o’r un anian ledled y Deyrnas Unedig gan gynnwys Cyngor Llyfrau Cymru, Bradford Literature Festival, Centre for Literacy in Primary Education (CLPE), English and Media Centre, Just Imagine, National Literacy Trust, KEAP (The Writers’ Block), Peters, Seven Stories the National Centre for Children’s Books, The Reader, The Story Museum a Wigtown Festival Company.
Wedi’i sefydlu yn 2016, nod y rhwydwaith cenedlaethol o grwpiau darllen athrawon yw ysbrydoli darllen er pleser gan fod ymchwil yn dangos bod plant sy’n darllen er pleser yn profi lefelau uchel o les, yn cymryd rhan mewn dysgu ac yn llwyddiannus mewn bywyd.
Caiff y sesiynau eu harwain gan aelodau o’n tîm o arbenigwyr yn y Cyngor Llyfrau ac EAS. Mae’r grŵp AM DDIM, ac mae adnoddau’r grŵp yn cael eu rhannu yn ystod y flwyddyn ynghyd a dau gopi o’r pum llyfr.
Bydd Cyngor Llyfrau Cymru ac EAS yn cynnal rhaglen RTRP ysgolion cynradd sy’n agored i holl athrawon Cyfnod Allweddol 2. Gan fod y nofelau sy’n cael eu dewiswyd yn fwyaf addas ar gyfer disgyblion Blwyddyn 5/6, rhoddir blaenoriaeth i athrawon y blynyddoedd hyn. I gynnwys cymaint o ysgolion â phosib, mae llefydd yn gyfyngedig i ddau athro i bob ysgol. Yn 2022-23, byddwn hefyd yn cynnal grŵp i athrawon Cyfnod Allweddol 3/llyfrgellwyr ysgol uwchradd.
Mae ceisiadau am y flwyddyn academaidd nesaf ar agor. I wneud cais, cliciwch yma.
RTRP de-ddwyrain Cymru Wales (EAS) 2022 – 2023
Dyddiadau Allweddol Cyngor Llyfrau Cymru 2022-2023 |
Grŵp CA2
Arweinwyr y Grŵp |
Ilid Haf a Catherine McMahon (EAS) |
Ardal |
EAS – De ddwyrain Cymru |
Lleoliad y Cyfarfod |
Malpas Court Mansion (i’w gadarnhau) |
Amser y Cyfarfod |
4.30 – 6.00 pm |
Lansiad |
Dydd Mawrth 18fed Hydref 2022 |
Cyfarfod Grŵp 1 |
Dydd Mawrth 15fed Tachwedd 2022 |
Cyfarfod Grŵp 2 |
Dydd Mawrth 17eg Ionawr 2023 |
Cyfarfod Grŵp 3 |
Dydd Mawrth 14eg Mawrth 2023 |
Cyfarfod Grŵp 4 |
Dydd Mawrth 25ain Ebrill 2023 |
Cyfarfod Grŵp 5 |
Dydd Mawrth 20fed Mehefin 2023 |
Diwrnod Rhannu |
Dydd Mawrth 4ydd Gorffennaf 2023 |
RTRP de-ddwyrain Cymru (EAS) 2022 – 2023
Dyddiadau Allweddol Cyngor Llyfrau Cymru 2022-2023
Grŵp CA3
Arweinwyr y Grŵp |
Ilid Haf a Catherine McMahon (EAS) |
Ardal |
EAS – De ddwyrain Cymru |
Lleoliad y Cyfarfod |
Malpas Court Mansion (i’w gadarnhau) |
Amser y Cyfarfod |
4.30 – 6.00 pm |
Lansiad |
Dydd Iau 27ain Hydref 2022 |
Cyfarfod Grŵp 1 |
Dydd Iau 24ain Tachwedd 2022 |
Cyfarfod Grŵp 2 |
Dydd Iau 26ain Ionawr 2023 |
Cyfarfod Grŵp 3 |
Dydd Iau 23ain Mawrth 2023 |
Cyfarfod Grŵp 4 |
Dydd Iau 4ydd Mai 2023 |
Cyfarfod Grŵp 5 |
Dydd Iau 29ain Mehefin 2023 |
Diwrnod Rhannu |
Dydd Iau 13eg Gorffennaf 2023 |
Am ragor o wybodaeth am y cynllun ac i gofrestru i gymryd rhan, ewch i wefan Cheltenham Festivals.
Cefnogir y rhaglen hon gan Arts Council England, Thirty Percy, a’r Unwin Charitable Trust.