Pencampwyr Darllen Dros Gymru 2019
Roedd Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth dan ei sang gan blant o bob cwr o Gymru ar 25 a 26 Mehefin pan ddaethant yn eu cannoedd i ddathlu darllen yn rowndiau cenedlaethol Darllen Dros Gymru, cystadlaethau a drefnwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru ar gyfer plant oed cynradd.
Roedd 34 o dimau o ysgolion ledled Cymru yn ymgiprys am y teitl Pencampwyr Darllen Dros Gymru 2019.
Rowndiau cenedlaethol y cystadlaethau yw penllanw’r gweithgareddau sy’n digwydd drwy Gymru dros sawl mis, gyda disgyblion yn cystadlu am yr anrhydedd o gynrychioli eu siroedd yn Aberystwyth.
Trafod llyfr oddi ar restr ddarllen a chyflwyno perfformiad fydd yn denu eraill at ddarllen y llyfr oedd yr her a osodwyd i’r disgyblion gyda Mair Heulyn Rees a Rhian Cadwaladr yn feirniaid.
Fel rhan o raglen y dydd, cafodd y plant a’r athrawon gyfle i fwynhau sesiynau hwyliog dros ben yng nghwmni’r awdur a’r actor Meilyr Sion. Bu’n diddanu’r darllenwyr brwd gyda chyflwyniad o’i lyfr diweddaraf Hufen Afiach (Atebol).
Dywedodd Rob Kenyon, athro o Ysgol Sant Baruc, Y Barri: “Mae’r plant wrth eu boddau yn cael cyfle i drafod y llyfrau ac i gyflwyno’r stori. Mae’n rhoi cyd-destun go iawn i waith datblygu llythrennedd a hynny mewn ffordd hwyliog dros ben. Mae cael y cyfle i gyfarfod ag awdur go iawn yn goron ar y cwbl.”
Disgyblion Blynyddoedd 3 a 4 oedd yn cystadlu ar ddydd Mawrth 25 Mehefin.
Ysgol Llannon, Sir Gaerfyrddin, a gipiodd y brif wobr am gyfuniad o’r cyflwyniad gorau a’r trafod gorau. Yr ysgol yma hefyd oedd enillwyr Tlws Coffa Anwen Tydu am y cyflwyniad dramatig gorau, gan seilio’u perfformiad ar Llanast gan Mari Lovgreen (Gomer).
Ysgol y Garnedd, Gwynedd, ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, a nhw hefyd enillodd y tlws am y grŵp trafod orau. Aeth y drydedd wobr i Ysgol y Wern, Caerdydd.
Tro disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 oedd hi ddydd Mercher 26 Mehefin a bu cystadlu brwd am y Bencampwriaeth.
Fe’i henillwyd eleni gan Ysgol Gymraeg Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, gydag Ysgol Pen Barras, Sir Ddinbych, yn ail ac Ysgol Sant Baruc, Y Barri, yn drydydd.
Ysgol Pen Barras a gipiodd Dlws Coffa Anwen Tydu, gyda’u cyflwyniad yn seiliedig ar gyfrol Pren a Chansen (Gwasg Carreg Gwalch) gydag Ysgol Gymraeg Rhydaman yn derbyn y tlws am y grŵp trafod gorau.
Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae cystadleuaeth Darllen Dros Gymru yn gyfle arbennig i blant afael mewn copi o lyfr, ei ddarllen a gwir fwynhau’r cynnwys. Gall y plant ddefnyddio eu dychymyg, dadansoddi’r cynnwys a thrafod yr hyn sydd yn digwydd. Diolch i ‘r trefnwyr ymroddedig am eu gwaith caled yn y rowndiau sirol, ac i’r athrawon a’r cefnogwyr eraill sy’n sicrhau llwyddiant y digwyddiad hwn bob blwyddyn.”
O ganlyniad i gefnogaeth hael nifer o gyhoeddwyr – Gomer, Carreg Gwalch, Y Lolfa a Chyhoeddiadau Rily – cafodd pob plentyn a gymerodd ran yn y rowndiau cenedlaethol ddewis llyfr yn rhad ac am ddim.
Bu’n rhaid gohirio cystadleuaeth Darllen Dros Gymru yn 2020 yn sgil cyfyngiadau Covid-19 ond rydyn ni’n mawr obeithio at ailafael yn y digwyddiad mor fuan ag sy’n bosib.