Datblygu Cyhoeddwyr
Nod yr Adran hon yw cefnogi cyhoeddwyr i gynnal a datblygu rhaglenni cyhoeddi amrywiol a safonol. Mae hyn yn digwydd yn bennaf trwy ddosbarthu grantiau ond hefyd trwy drefnu hyfforddiant a chyfleoedd i gydweithio, creu partneriaethau ehangach, a chomisiynu ymchwil.
Gweinyddir y grantiau a ddaw gan Lywodraeth Cymru i’r cyhoeddwyr, a thrwy’r cyhoeddwyr i awduron, darlunwyr, dylunwyr a golygyddion.
Arweinir gwaith yr Adran gan ddau banel o arbenigwyr allanol, y naill yn canolbwyntio ar y grantiau i gyhoeddwyr llyfrau Saesneg o Gymru a’r llall ar gyhoeddiadau Cymraeg.
Blaenoriaeth y grantiau yw sicrhau amrywiaeth o lyfrau o Gymru ac am Gymru i gynulleidfa mor eang a phosibl. Cefnogir llyfrau ffuglen a ffaith, i oedolion a phlant fel ei gilydd ym mhob genre posibl.
Yn ogystal â chefnogi llyfrau mae’r Adran yn cefnogi amrywiaeth o gylchgronau a chyhoeddiadau ar-lein yn y ddwy iaith ac yn cefnogi swyddi golygyddol yn y tai cyhoeddi.
Drwy gydweithio a chefnogi’r cyhoeddwyr y nod yw sicrhau bod cynnyrch o Gymru yn gallu sefyll ysgwydd yn ysgwydd a chynnyrch unrhyw wlad arall ac yn cyrraedd eu potensial llawn o ran gwerthiant ac imapct.
Gwybodaeth bellach am y grantiau a’r cymorth i gyhoeddwyr.
Manylion cyswllt
- Pennaeth – R Arwel Jones arwel.jones@llyfrau.cymru
- Swyddog Datblygu Cyhoeddi (Cymraeg) – Dr Lynne Williams grantiau.cymraeg@llyfrau.cymru
- Swyddog Datblygu Cyhoeddi (Saesneg) – Dr Ashley Owen grantiau.saesneg@llyfrau.cymru
- Gweinyddwr – Jane Hopkins jane.hopkins@llyfrau.cymru