Grantiau sydd ar gael

Mae’r rhestr isod yn cynnwys crynodeb o’r grantiau sydd ar gael ar gyfer cyhoeddi deunydd Saesneg yng Nghymru. I gael manylion llawn, cysylltwch â’n Swyddog Datblygu Cyhoeddi (Saesneg), Dr Ashley Owen, ar english.grants@books.wales. Edrychwch hefyd ar y canllawiau a’r amodau ar gyfer ceisiadau grant ar ein tudalen ‘Sut i Ymgeisio’.

 

Grantiau Llyfrau Llenyddol Unigol

Grantiau tuag at gynhyrchu llyfrau llenyddol neu ddiwylliannol o ddiddordeb Cymreig neu gan awduron sy’n byw yng Nghymru, i oedolion neu blant.

 

Grantiau Refeniw

Grantiau tuag at orbenion a rhaglenni llenyddol cyhoeddwyr a leolir yng Nghymru. Dylai cyhoeddwyr sydd eisoes yn cyhoeddi llenyddiaeth Saesneg o Gymru, ac a hoffai wybod mwy am y posibilrwydd o dderbyn nawdd refeniw, gysylltu â’r Adran Datblygu Cyhoeddi.

 

Blaendaliadau/Comisiynau i Awduron a Darlunwyr

Grantiau i alluogi cyhoeddwyr i gynnig blaendal ar freindaliadau neu i dalu ffioedd comisiynu i awduron neu ddarlunwyr i greu gwaith o safon ac eang ei apêl.

 

Grantiau Marchnata

Grantiau tuag at hyrwyddo teitlau unigol neu grwpiau o deitlau y mae disgwyl i’w gwerthiant fod yn uchel.

 

Cefnogi Swyddi

Cyfraniadau tuag at gost cyflogi staff golygyddol a marchnata oddi mewn i gwmni cyhoeddi. Penderfynir ar y grantiau hyn drwy broses dendro – gellir dod o hyd i fanylion yr alwad nesaf yma: Tendrau.

 

Cylchgronau Diwylliannol

Mae’r cynllun hwn yn noddi cylchgronau newydd a sefydledig sy’n cynnwys ysgrifennu rhagorol a newyddiaduraeth dreiddgar ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys gwleidyddiaeth a materion cyfoes, diwylliant a’r celfyddydau. Penderfynir ar y grantiau hyn drwy broses dendro – gellir dod o hyd i fanylion yr alwad nesaf yma: Tendrau

 

Grantiau i Gylchgronau Bach a Gweisg Bychain

Grantiau i gefnogi mentrau cyhoeddi bach, lleol yn aml, ac i hybu talent greadigol newydd. Gellir cyflwyno ceisiadau unwaith y flwyddyn a hynny ym mis Gorffennaf. Cysylltwch am fanylion pellach â’n Swyddog Datblygu Cyhoeddi (Saesneg), Dr Ashley Owen, ar english.grants@books.wales.

 

Grantiau Gweithgareddau Marchnata Bach

Grantiau bach tuag at hyrwyddo teitlau llenyddol unigol neu grwpiau o deitlau. Nod y cynllun hwn yw ariannu lansiadau a gweithgareddau marchnata bach.

 

Cyrsiau Hyfforddi

Mae cronfa fechan i’w defnyddio ar gyfer cyrsiau i gyhoeddwyr a ddarperir gan Gyngor Llyfrau Cymru. Ymhlith yr hyfforddiant a gynhaliwyd yn ddiweddar mae cyrsiau ar olygu, marchnata a rheoli busnes. Am ragor o fanylion cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Cyhoeddi (Saesneg) ar english.grants@books.wales.