Mae’r rhestr isod yn cynnwys crynodeb o’r grantiau sydd ar gael ar gyfer cyhoeddi deunydd Saesneg yng Nghymru. I gael manylion llawn, cysylltwch â’n Swyddog Grantiau Saesneg yn yr Adran Grantiau Cyhoeddi – Dr Ashley Owen english.grants@books.wales. Edrychwch hefyd ar y canllawiau a’r amodau ar gyfer ceisiadau grant ar ein tudalen Sut i Ymgeisio.
Grantiau Llyfrau Llenyddol Unigol
Grantiau tuag at gynhyrchu llyfrau llenyddol neu ddiwyllianol o ddiddordeb Cymreig neu gan awduron sy’n byw yng Nghymru, i oedolion neu blant.
Grantiau Refeniw
Grantiau tuag at orbenion a rhaglenni llenyddol cyhoeddwyr a leolir yng Nghymru. Dylai cyhoeddwyr sydd eisoes yn cyhoeddi llenyddiaeth Saesneg o Gymru, ac a hoffai wybod mwy am y posibilrwydd o dderbyn nawdd refeniw, gysylltu â’r Adran Grantiau Cyhoeddi.
Blaendaliadau / Comisiynau i Awduron a Darlunwyr
Grantiau i alluogi cyhoeddwyr i gynnig blaendal ar freindaliadau neu i dalu ffioedd comisiynu i awduron neu ddarlunwyr i greu gwaith o safon ac eang ei apêl.
Grantiau Marchnata
Grantiau tuag at hyrwyddo teitlau unigol neu grwpiau o deitlau y mae disgwyl i’w gwerthiant fod yn uchel.
Cefnogi Swyddi
Cyfraniadau tuag at gost cyflogi staff golygyddol a marchnata oddi mewn i gwmni cyhoeddi. Dosrannwyd y gyllideb gyfan ar gyfer y cyfnod cyfredol. Bydd yr Adran Grantiau Cyhoeddi yn hysbysebu canllawiau mewn da bryd ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol.
Cylchgronau Diwylliannol
Mae’r cynllun hwn yn noddi cylchgronau newydd a sefydledig sy’n cynnwys ysgrifennu rhagorol a newyddiaduraeth dreiddgar ar ystod eang o bynciau gan gynnwys gwleidyddiaeth a materion cyfoes, diwylliant a’r celfyddydau.
Grantiau i Gylchgronau Bach a Gweisg Bychain
Grantiau i gefnogi mentrau cyhoeddi bach, lleol yn aml, ac i hybu talent creadigol newydd. Gellid cyflwyno ceisiadau unwaith y flwyddyn a hynny ym mis Mai. Cysylltwch am fanylion pellach â’n Swyddog Grantiau Saesneg yn yr Adran Grantiau Cyhoeddi – Dr Ashley Owen english.grants@books.wales.
Grantiau Gweithgareddau Marchnata Bach
Grantiau bach tuag at hyrwyddo teitlau llenyddol unigol neu grwpiau o deitlau. Nod y cynllun hwn yw ariannu lansiadau a gweithgareddau marchnata bach.
Cyrsiau Hyfforddi
Mae cronfa fechan i’w defnyddio ar gyfer cyrsiau i gyhoeddwyr a ddarperir gan Gyngor Llyfrau Cymru. Ymhlith yr hyfforddiant a gynhaliwyd yn ddiweddar mae cyrsiau ar olygu, marchnata a rheoli busnes. Am ragor o fanylion cysylltwch â’r Adran Grantiau Cyhoeddi.