Mae croeso i unrhyw gyhoeddwr sydd am gael cyngor ynglŷn â’r drefn o ymgeisio am grantiau gysylltu â’r Adran Datblygu Cyhoeddi yn uniongyrchol ar english.grants@books.wales, yn enwedig os ydych yn gyhoeddwr newydd sy’n ystyried mentro i’r maes. Nid yw’r Cyngor yn derbyn ceisiadau am grant yn uniongyrchol gan awduron nac artistiaid.
Os ydych yn awdur, yn ddarlunydd neu’n ddylunydd sy’n chwilio am gefnogaeth, mae angen i chi sicrhau cefnogaeth gan gyhoeddwr a fydd yn eu tro yn cyflwyno cais i’r Cyngor Llyfrau.
Am sgwrs gychwynnol am y grantiau sydd ar gael ar gyfer cyhoeddi deunydd Saesneg yng Nghymru, cysylltwch gyda Dr Ashley Owen: english.grants@books.wales.
FFURFLENNI CAIS, Canllawiau ac Amodau – DEUNYDD SAESNEG
Darllenwch y canllawiau ac amodau perthnasol isod cyn mynd ati i lenwi’r ffurflenni cais ar gyfer grantiau i gyhoeddiadau Saesneg. Os ydych yn ansicr am unrhyw beth, cysylltwch gyda’n Swyddog Grantiau Saesneg Dr Ashley Owen ar english.grants@books.wales neu 01970 624151.
BLAENDALIADAU/COMISIYNAU I AWDURON A DARLUNWYR
GRANTIAU LLYFRAU LLENYDDOL UNIGOL (SAESNEG)
GRANTIAU GWEITHGAREDDAU MARCHNATA BACH
GRANTIAU I GYLCHGRONAU BACH A GWEISG BYCHAIN
GRANTIAU I GYLCHGRONAU DIWYLLIANNOL (SAESNEG)
Gweler hefyd yr wybodaeth ar y tudalennau ‘Dyddiadau Cau’ a ‘Tendrau’.