Her ddarllen hwyliog sy’n sbarduno darllen er pleser i blant oed cynradd Cymru

Beth yw Gornest Lyfrau?
Cystadleuaeth flynyddol sydd yn annog darllenwyr ifanc Blynyddoedd 3–6 i ddarllen er pleser. Mae Gornest Lyfrau yn annog dysgwyr i drafod y llyfrau maen nhw’n eu darllen a pharatoi fideo creadigol, fel grŵp neu ddosbarth, yn seiliedig ar un o’r llyfrau sydd ar y rhestr ddarllen.
Mae 5 categori a rhestr ddarllen ar gael ar gyfer:
- Blynyddoedd 3 a 4 cyfrwng Cymraeg
- Blynyddoedd 5 a 6 cyfrwng Cymraeg
- Ysgolion trawsieithol Blynyddoedd 3-6 (ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf ond gyda defnydd sylweddol o’r Gymraeg, ac ysgolion trosiannol)
- Blynyddoedd 7-8 cyfrwng Cymraeg
- Blynyddoedd 3 – 6 cyfrwng Saesneg (BookSlam)
Sut mae’n gweithio?
Bydd angen i ysgolion ddewis un llyfr o’r rhestr i’w drafod ac un arall i’w gyflwyno fel hysbyseb. Cynhelir rownd sirol dan ofal y trefnwyr sirol, a bydd yr enillwyr sirol yn mynd ymlaen i’r rownd genedlaethol yn nhymor yr haf.
Bydd yr ysgolion buddugol yn ennill tlws arbennig ynghyd ag un o’r gwobrau canlynol;
- Gwobr 1af – gwerth £200 o lyfrau
- 2ail wobr – gwerth £150 o lyfrau
- 3ydd wobr – gwerth £100 o lyfrau
Mae mwy o wybodaeth am y rowndiau sirol a chenedlaethol yn ein Pecyn Croeso, yn ogystal â Chanllaw a Phecyn Gweithgareddau sydd ar gael i ysgolion trwy gysylltu â ni’n uniongyrchol plant@llyfrau.cymru neu’r trefnwyr sirol.
Manteision Allweddol
Mae’n her ddarllen hwyliog sy’n:
- annog plant i wirioni ar ddarllen a mwynhau llyfrau da
- meithrin agweddau cadarnhaol a hirdymor tuag at ddarllen
- cefnogi datblygiad llythrennedd emosiynol a meithrin sgiliau trafod, cyfathrebu a dadansoddi
- cyd-fynd â gofynion y Cwricwlwm trwy gynnig amrywiaeth o weithgareddau i unigolion a grwpiau ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad
- hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o lyfrau, awduron a darlunwyr
- dathlu safon eithriadol ym maes llenyddiaeth plant
Cofrestrwch i’r gystadleuaeth gornest lyfrau
Gall ysgolion gofrestru gyda’u trefnydd lleol neu yma erbyn 05 Rhagfyr 2025.
Os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch â plant@llyfrau.cymru