Mis Chwefror yw mis Hanes LHDCT+.
Dyma gyfrolau sy’n archwilio profiad pobl LHDTC+ yng Nghymru.
A Little Gay History of Wales – Daryl Leeworthy (Gwasg Prifysgol Cymru)
Mae’r gyfrol hon yn archwilio bywydau, diwylliannau a gwleidyddiaeth gwŷr a gwragedd Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws o’r cyfnod canoloesol hyd at y cyfnod diweddar. Defnyddir ymchwil archifol arloesol i adnabod yr unigolion, y llefydd a’r ieithoedd a fu ar waith yn disgrifio profiad a gadwyd ynghudd mor aml.
Forbidden Lives: LGBT Stories from Wales – Norena Shopland (Seren Books)
Cyfrol sy’n archwilio hanes cudd y gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yng Nghymru drwy bortreadau o ffigurau ac adegau cymdeithasol a diwylliannol arwyddocaol yn yr hanes hwnnw. Mae’r ymchwilydd a’r ymgyrchydd Norena Shopland wedi llunio canllaw hygyrch a phwysig i’r maes.
Queer Wales: The History, Culture and Politics of Queer Life in Wales – Ed. Huw Osborne (Gwasg Prifysgol Cymru)
Cyfrol sy’n agor trafodaeth bwysig wrth edrych ar agweddau gwahanol ar amrywiaethau ym maes rhywioldeb, diwylliant a gwleidyddiaeth yng Nghymru.
Between Worlds: A Queer Boy from the Valleys – Jeffrey Weeks (Parthian Books)
Ganed Jeffrey Weeks yn y Rhondda yn 1945, i deulu o lowyr. Wrth iddo dyfu, teimlai’n ynysig o fewn cymuned glòs y cymoedd, a dwysawyd y teimlad hwn pan sylweddolodd ei fod yn hoyw. Canfu ddihangfa ym myd addysg, ac ymadawodd am Lundain, i fynychu prifysgol ac i wireddu ei rywioldeb.
Y Daith ydi Adra – John Sam Jones, addas. Sian Northey (Parthian Books)
Hunangofiant John Sam Jones am fyw bywyd ar y ffin, rhwng gwirionedd a chelwydd, rhwng gwrthodiad a derbyniad. O’i blentyndod ar arfordir Cymru i gyfnod cythryblus yn fyfyriwr is-raddedig ym mhrifysgol Aberystwyth, aeth ymlaen i ennill ysgoloriaeth yng Ngholeg Berkley yn San Francisco wrth i haint AIDS ddechrau gafael yn y gymdeithas.
Don’t Ask About My Genitals – Owen J. Hurcum (Black Bee Books)
Nid yw’r gyfrol hon yn trafod pob agwedd ar y gymuned hoyw a thrawsrywiol, a’u bywydau byrlymus ac amrywiol, ond bydd ei darllen yn cynnig gwybodaeth ac yn eich arfogi i fod yn gefnogol. Wedi’r cyfan, addysg yw gelyn pennaf rhagfarn.
Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.