Sefydlwyd y wobr hon er mwyn coffáu cyfraniad sylweddol ac unigryw Mary Vaughan Jones i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru. Cyflwynir y wobr bob tair blynedd i berson am gyfraniad arbennig i faes llyfrau plant yng Nghymru dros gyfnod o flynyddoedd.
Dyfarnwyd y wobr yn 2024 i Bethan Gwanas. Yn ystod ei gyrfa fel awdur, mae Bethan wedi cyhoeddi 51 o lyfrau amrywiol ar gyfer plant, pobl ifanc, oedolion iaith gyntaf a dysgwyr. Mae hi wedi gwneud cyfraniad eang a gwerthfawr i lenyddiaeth plant a phobl ifanc ac mae ei straeon yn aml yn cynnwys cymeriadau benywaidd cryf a phenderfynol, fel Efa yng nghyfres Y Melanai.
Mae hi wedi ennilll Gwobr Tir na n-Og ddwywaith – gyda Llinyn Trôns yn 2001 a Sgôr yn 2003. Ystyrir nifer o’i llyfrau bellach yn glasuron llenyddol i blant a phobl ifanc, fel Llinyn Trôns, Ceri Grafu a chyfres Cadi ar gyfer darllenwyr iau.
AM MARY VAUGHAN JONES (1918 - 1983)
Mary Vaughan Jones (1918-1983) oedd un o awduron pwysicaf llenyddiaeth plant yng Nghymru. Roedd hi’n athrawes ysbrydoledig, a bu ei gwaith fel darlithydd coleg o werth amhrisiadwy i addysg Gymraeg, ond mae’n debyg mai ei chyfraniad mwyaf gwerthfawr, er hynny, oedd ei chyfraniad cyfoethog a chyson i faes llenyddiaeth plant Cymru dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain ymron, a hynny er gwaethaf brwydr boenus yn erbyn afiechyd cynyddol.
Cyhoeddodd bron i ddeugain o lyfrau i blant. Mae rhai o’i llyfrau mwyaf adnabyddus yn perthyn i gyfres dysgu darllen sy’n cynnwys Sali Mali, Jac y Jwc a Jini – cymeriadau y mae cenedlaethau o blant wedi tyfu i fyny a dysgu darllen Cymraeg gyda nhw.
Y rhai sy’n gymwys i’w hystyried
Gwobr Mary Vaughan Jones yw’r anrhydedd uchaf ym maes llyfrau plant yng Nghymru ac fe’i sefydlwyd ym 1985 i goffáu cyfraniad sylweddol ac unigryw Mary Vaughan Jones i lenyddiaeth plant yng Nghymru.
Fe’i dyfernir bob tair blynedd a gellir ystyried unrhyw un sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i lyfrau plant yng Nghymru dros gyfnod o flynyddoedd ar gyfer y wobr, boed hynny fel awdur, arlunydd, llyfrwerthwr, llyfrgellydd neu mewn rhinwedd arall.
ENILLWYR
1985 – Ifor Owen
1988 – Emily Huws
1991 – T. Llew Jones
1994 – W. J. Jones
1997 – Roger Boore
2000 – J. Selwyn Lloyd
2003 – Elfyn Pritchard
2006 – Mair Wynn Hughes
2009 – Angharad Tomos
2012 – Jac Jones
2015 – Siân Lewis
2018 – Gareth F. Williams
2021 – Menna Lloyd Williams
2024 – Bethan Gwanas